British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009, 17:56 GMT
Trydydd diwrnod o drafferth tywydd

Maesteg (Ross Thomas)
Eira yn achosi trafferthion i deithwyr

Mae tua 200 o ysgolion ar gau ddydd Mercher oherwydd y tywydd garw.

Caewyd bron 550 o ysgolion ddydd Mawrth wrth i eria achosi problemau ar draws y wlad, ac mae rhagolygon am fwy o eira nos Fercher.

Mae hyd at 6 modfedd (15cm) wedi disgyn mewn rhai ardaloedd.

Mae'r cyflenwr sy'n gyfrifol am ddarparu halen i Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer graeanu'r ffyrdd, Salt Union Ltd, wedi eu hysbysu nad oes ganddo ragor o halen i'w gynnig.

Oherwydd yr arolygon tywydd ar gyfer y diwrnodau nesaf mae Cyngor Sir Ceredigion yn awr wedi penderfynu neilltuo'r cyflenwad halen i drin priffyrdd a chefnffyrdd ac i drin ffyrdd eilradd ac eraill trwy ddulliau sy'n galw am lai o halen.

Mae'r eira hefyd yn achosi problemau ar y ffyrdd gyda'r heddlu yn cynghori pobl i deithio dim ond os oes gwir angen.

Dywed undeb athrawon yr NUT fod rhaid i bennaethiaid ysgolion dalu sylw i'r tywydd, ac nad oedd ganddyn nhw ddewis ond cau mewn sawl achos.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud nad fydd bysus ysgol yn rhedeg o gwbwl, ond mai penderfyniad pennaethiaid fydd hi os ydyn nhw am gau eu hysgolion ai peidio.

Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am dywydd difrifol i Gymru, Lloegr a rhannau o'r Alban.

Y de, y gorllewin a'r canolbarth dydd wedi diodde waetha.

Roedd cwmni trenau Arriva Cymru wedi cael trafferthion i ddechrau dydd Mawrth ar ôl i staff fethu cyrraedd ond mae gwasanaethau yn rhedeg fel arfer.

Does 'na ddim casgliadau sbwriel ym Mro Morgannwg.

Daw adroddiadau fod y ffyrdd yn beryglus mewn sawl rhan o Gymru, ac mae'r heddlu yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Rhestr ysgolion ar gau ddydd Iau
04 Chwef 09 |  Newyddion
Lluniau: Eira yng Nghymru
03 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific