|
Cwynodd Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Sir Ynys Môn y llynedd fod penderfyniadau gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor, yn ei danseilio o yn ogystal a'i adran. Mae'r Cyngor Sir wedi cadarnau fod yr ohebiaeth ddaeth i law BBC Cymru, rhwng Pennaeth Cyllid y Cyngor, David Elis Williams, a'r Arweinydd, y Cynghorydd Phil Fowlie yn ddilys. Ysgrifennodd David Elis-Williams y llythyr yn dilyn penderfyniad gan Bwyllgor Gwaith yr Awdurdod yn ymwneud â chyllid o Ewrop. Dywed y llythyr fod penderfyniad y pwyllgor gwaith "fel tae chi'n ceisio ein hamddifadu o'r celfi sydd eu hangen arnom i wneud ein gwaith." Penderfynnodd Mr Elis Williams anfon copi o'i lythyr i Reolwr Gyfarwyddwr Cyngor Mon, i'r Archwilydd Allanol, y Swyddog Monitro a Phennaeth yr Adran Ddatblygu Economaidd. Pwrpas y llythyr, meddai, oedd "i fynegi fy aniddigrwydd ynglyn a rhai penderfyniadau gan y Pwyllgor Gwaith yn gynharach yn ystod y mis" (Medi 2008). Mae Mr Elis Williams yn tynnu sylw'r Arweinydd i'r ffaith fod ganddo ddyletswydd cyfreithiol fel Pennaeth Cyllid ynglyn â holl waith y Cyngor sy'n ymwneud a Cylllid. "Er mwyn gweithredu'r fath gyfrifoldebau a dyletswyddau," meddai, "dwi angen gwybod, a bod yn rhan o'r hyn sy'n mynd ymlaen pan mae a wnelo hynny â chyllid." Mae BBC Cymru hefyd wedi cael meddiant o ateb yr Arweinydd, mewn llythyr dyddiedig Hydref 7fed. "Dwi'n cydnabod derbyn eich llythyr dyddiedig 26 o Fedi, a dwi'n cydnabod y cynnwys." Mae Cyngor Mon wedi cadarnhau na chymerwyd unrhyw gamau mewnol yn dilyn llythyr y Cyfarwyddwr Cyllid. Wythnos yn ol fodd bynnag, cyhoeddwyd fod Archwiliwr Cyffredinol Cymru wedi penderfynnu cynnal ymchwiliad llawn i'r ffordd mae Cyngor Mon yn cael ei reoli. Penderfynodd hefyd i ymchwilio i'r gwrthdaro sy'n bodoli rhwng rhai aelodau o'r pwyllgor gwaith a Phrif Swyddogion y Cyngor.
|