British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Chwefror 2009, 14:03 GMT
Gyrwyr golwg diffygiol

Gyrrwr
Cymaint a 40% o yrwyr ddim yn cyrraedd y safonau

Mae awgrym y gall dros un o bob tri o yrwyr fod yn berygl iddyn nhw'u hunain ac eraill am nad yw eu golwg yn ddigon da.

Bu canlyniadau brawychus i brofion a gynhaliwyd yn ddiweddar fel rhan o ymgyrch gyrru'n ddiogel cwmni optegwyr Specsavers.

Roedd rhain yn dangos fod hyd at 40% o yrwyr yn annhebygol o gyrraedd y safonau derbyniol o ran eu golwg o bellter.

Roedd dros hanner - 57% - heb gael prawf llygaid yn y ddwy flynedd ddiwethaf fel y mae arbenigwyr yn argymell.

O ganlyniad i'r wybodaeth, mae Grŵp Diogelwch Ffyrdd y Gogledd ynghyd Heddlu'r Gogledd yn lansio ymgyrch i annog gyrwyr i gael profion llygaid cyson.

Mae anogaeth hefyd i wisgo sbectol addas, ac apl ar yrwyr sy'n defnyddio sbectol i gario pr wrth gefn yn eu ceir drwy'r adeg.

Damweiniau

Er nad oes prawf ystadegol ar gael, y gred yw bod golwg diffygiol yn ffactor mewn nifer o ddamweiniau difrifol neu angheuol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gary Ashton o Heddlu'r Gogledd: "Yn Sioe Dinbych a Fflint y llynedd, fe wnaeth 40% o bobl a gymerodd brawf llygaid gwirfoddol fethu'r prawf, sef y gallu i ddarllen plt car o bellter o 20.5 metr.

"O dan ddeddf traffic 1988, mae'n drosedd i yrru gyda golwg diffygiol.

"Ry'n ni felly'n annog pobl i gael profion llygaid yn gyson."

Ffigyrau brawychus
13 miliwn o yrwyr Prydain ddim yn cael profion llygaid cyson
Traean yn torri'r gyfraith
Hyd at 3 miliwn ym Mhrydain ddim yn cyrraedd safonau derbyniol
Bydd timau diogelwch y ffyrdd y cynnal cyfres o 'sioeau' ar hyd gogledd Cymru i gefnogi'r ymgyrch.

Dywedodd llefarydd o gwmni Specsavers mai'r gr?p sydd dan y bygythiad mwyaf yw'r rhai sydd ddim yn cael profion, ac efallai ddim yn sylweddoli nad yw eu golwg yn ddigon da.

"Trwy gefnogi ymgyrch Gr?p Diogelwch Ffyrdd y Gogledd, ryn' ni'n gobeithio annog gyrwyr i feddwl am gael prawf llygaid fel unrhyw brawf diogelwch arall, fel tystysgrif MOT er enghraifft."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Ffrindiau peryg bywyd': Rhybudd
19 Ion 09 |  Newyddion
Gyrwyr yn peryglu bywydau
03 Tach 08 |  Newyddion
Gyrwyr tramor: '32 awr yn ddidor'
13 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific