British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Chwefror 2009, 17:37 GMT
Iaith: Cais am fwy o bwerau

Cytundeb Cymru'n Un
Y gorchymyn: Un o elfennau allweddol cytundeb Cymru'n Un

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dechrau'r broses o wneud cais i gael mwy o bwerau dros yr iaith Gymraeg.

Ei nod yn y pendraw fydd i greu mesur i'r iaith Gymraeg fyddai'n "cadarnhau statws cyfartal" i ieithoedd Cymraeg a Saesneg, sicrhau hawliau ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau ac i sefydlu Comisiynydd Iaith.

Y gorchymyn oedd un o elfennau allweddol cytundeb Cymru'n Un, cytundeb y llywodraeth glymblaid.

Mae'r broses o baratoi'r cais wedi cymryd blwyddyn yn fwy o amser na'r disgwyl.

Wrth gyhoeddi'r gorchymyn ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones bod yr iaith Gymraeg yn "eiddo i bawb" yng Nghymru.

"P'run ai ydyn nhw'n gallu siarad yr iaith ai peidio.

"Mae'n rhan o'n treftadaeth a'n hunaniaeth genedlaethol.

"Mae pobl ein cenedl yn falch o'n dwy iaith, sy'n elfennau hanfodol yn hanes, diwylliant a chyfansoddiad cymdeithasol Cymru.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgeisio i dynnu grym dros yr iaith Gymraeg o San Steffan i'r Cynulliad, fel ein bod ni'n fwy abl i gyrraedd ein nod o Gymru wirioneddol ddwyieithog."

Trosglwyddo hawl

Mater i Aelodau'r Cynulliad fydd penderfynu sut i ddefnyddio'r pŵer hwnnw.

Rhaid i'r Senedd a'r Cynulliad gymeradwyo'r cais cyn iddo ddod i rym.

EFFAITH AR GWMNAU PREIFAT?

Nwy, dŵr, a thrydan
Carthffosiaeth
Gwasanaethau post a swyddfeydd post
Gwasanaethau telathrebu
Addysg, hyfforddi a chyngor gyrfaoedd
Gwasanaethau rheilffyrdd
Gwasanaethau sy'n gysylltiedig chymwysterau addysg neu alwedigaethol
Ac fe fydd rhaid cael sl bendith frenhinol hefyd.

Fe fydd y gorchymyn yn effeithio ar gwmnau sy'n cynnig gwasanaethau i'r cyhoedd.

Fe fydd hawl gan Lywodraeth y Cynulliad i gynnwys "nifer helaeth o fudiadau" o dan ofynion Deddf Iaith 1993, gan gynnwys gwasanaethau telathrebu a gwasanaethau rheilffyrdd.

Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi dweud y bydd hi'n "ddiwrnod hynod o arwyddocaol" i'r iaith petai'r gorchymyn yn cael ei ganiatu gan olygu y bydd deddfu ar yr iaith Gymraeg yn y dyfodol yn cael ei wneud yng Nghymru.

Ond eisoes mae Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy wedi awgrymu y byddai'r gorchymyn yn cael ei newid cyn y bydd yn cael ei basio.

Wrth groesawu cyhoeddiad y gorchymyn dywedodd bod heddiw yn "ddechrau cyfnod o ymgynghori eang ledled Cymru ynglŷn 'r gorchymyn".

"Bydd gan bawb, gan gynnwys cymunedau busnes a diwydiant Cymru, gyfle i edrych yn fanwl a rhoi eu barn ar gynigion Llywodraeth y Cynulliad.

"Dyw'r manylion ddim yn derfynol.

"Mae gan bawb yng Nghymru'r cyfle i gael effaith ar y ddeddfwriaeth, ac fe fyddwn i'n eu hannog i wneud hynny. Dyma ddatganoli ar waith."

Addewid

Dywedodd Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, bod nifer wedi "brwydro'r galed ers amser maith ar hawliau a statws i'n hiaith a'r rhai sy'n ei defnyddio.

"Pan ffurfiodd Plaid Cymru y llywodraeth glymblaid, fe wnaethon ni addewid i sicrhau y byddem yn sefyll dros yr hyn oedd yn iawn a'r hyn oedd ei angen.

"Gyda'r cyhoeddiad yma, rydym wedi cyflawni hynny."

Roedd ymateb Ceidwadwyr Cymru yn sn am y dirwasgiad.

"Tra ein bod wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith Gymraeg - fel y gwnaethom amlinellu yn ein maniffesto i etholiadau'r Cynulliad yn 2007 - nid ydym am weld rhwystrau'n cael eu codi i fusnesau yng Nghymru allai wneud difrod i fuddsoddiad neu iddyn nhw fod yn gystadleuol, yn enwedig mewn adeg o ddirwasgiad," meddai llefarydd y blaid ar Dreftadaeth AC Preseli Penfro, Paul Davies.

'Hen bryd'

Croesawodd Eleanor Burnham, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, y cyhoeddiad ar ran y Democratiad Rhyddfrydol: "Rydym wedi bod yn aros am hyn am ddwy flynedd.

"Mae'n hen bryd i Lywodraeth Llafur-Plaid wneud rhywbeth ymarferol am ein hiaith.

"Rwyf ond yn gobeithio nawr y bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn rhoi i Lywodraeth Cynulliad Cymru y pŵer mae'n ei haeddu dros ddefnydd o'r iaith Gymraeg.

"Mae'n eironig meddwl hyd yn oed wrth drafod yr iaith Gymraeg ein bod o hyd yn ddibynnol ar benderfyniadau yn Llundain."

Hawliau amodol

Yn l Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg, dyw'r gorchymyn ddim yn mynd yn ddigon pell.

"Hawliau amodol yn unig yw'r hyn sy'n cael eu cynnig yn y gorchymyn," meddai eu cadeirydd, Menna Machraeth.

"Ni fyddan nhw'n cael cyffwrdd rhan helaeth y sector breifat..... y sector mae pobl yn dod i gysylltiad hi fwya yn eu bywydau bob dydd.

"Ein neges ni i Lywodraeth Cymru'n Un yw 'mynnwch rywbeth gwell i bobl Cymru!'

"Ar yr un gwynt, rydym yn rhybuddio Aelodau Seneddol San Steffan rhag unrhyw ymdrech sinigaidd i wanhau'r gorchymyn yn ogystal."

'Arwyddocaol'

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws: "Mae heddiw'n ddiwrnod arwyddocaol yn hanes y Gymraeg. Rydym ni fel Bwrdd yn croesawu'r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod mai'r Cynulliad yw'r priod le i ddeddfu ynghylch yr iaith.

"O drosglwyddo'r grym, mae yna botensial gwirioneddol i basio mesurau a fydd yn symud yr iaith yn ei blaen mewn modd adeiladol.

"Dechrau'r daith yw hon, a bydd yna gyfnod o drafod dwys a chyffrous i ddilyn, ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth honno, trwy gyfrwng cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad ac i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn San Steffan."

Mae'r cyhoeddiad yn ddechrau proses hir o ymgynghori dros y misoedd nesaf.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cam diweddara brwydr hir
02 Chwef 09 |  Newyddion
Sector preifat: Defnyddio'r iaith?
23 Ion 09 |  Newyddion
Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod'
15 Ion 09 |  Newyddion
Dim Cymraeg 'yn warthus'
11 Meh 07 |  Newyddion
Deddfau llawn: Mesur a phwyso
13 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific