British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009, 21:48 GMT
Eira: 500 o ysgolion wedi cau

Maesteg (Ross Thomas)
Eira yn achosi trafferthion i deithwyr

Mae eira dros nos yng Nghymru wedi achosi trafferthion.

Dydd Mawrth mae dros 500 o ysgolion Cymru wedi cau ar l i 150 gau ddydd Llun.

Eisoes mae dros 35 o ysgolion wedi cyhoeddi y byddan nhw ar gau ddydd Mercher.

Mae hyd at 6 modfedd (15cm) wedi disgyn mewn rhai ardaloedd.

Mae'r eira hefyd yn achosi problemau ar y ffyrdd gyda'r heddlu yn cynghori pobl i deithio dim ond os oes gwir angen.

Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am dywydd difrifol i Gymru, Lloegr a rhannau o'r Alban.

Y de, y gorllewin a'r canolbarth dydd wedi diodde waetha.

Roedd cwmni trenau Arriva Cymru wedi cael trafferthion i ddechrau dydd Mawrth ar l i staff fethu cyrraedd ond mae gwasanaethau yn rhedeg fel arfer.

Does 'na ddim casgliadau sbwriel ym Mro Morgannwg.

Mae'r gwasanaeth post yn ymddiheuro ond fydd 'na ddim gwasanaeth symudol yng Nghilgeti, Abergwaun, Llandeilo na Felinfach.

Bu'n rhaid cau llain lanio maes awyr Caerdydd er mwyn clirio'r eira.

Bu'r cynghorau yn graeanu ffyrdd ar hyd y wlad nos Lun wrth i wyntoedd o Rwsia ddod thywydd oer o'r dwyrain.

Daw adroddiadau fod y ffyrdd yn beryglus mewn sawl rhan o Gymru, ac mae'r heddlu yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus.

Yn Abertawe mae 'na gyfyngiadau ar y gwasanaeth bws ac mae bysiau yn teithio yn unig ar y prif ffyrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Port Talbot, Llanelli.

Oherwydd y tywydd garw mae gm Caerdydd yn erbyn Arsenal ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr wedi cael ei gohirio, ynghyd gem Abertawe yn erbyn QPR yn y bencampwriaeth.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Lluniau: Eira yng Nghymru
03 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific