British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Chwefror 2009, 06:50 GMT
Cam diweddara brwydr hir

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru

Senedd, Bae Caerdydd
Mae 'na drin a thrafod y gorchymyn ers misoedd

Cyhoeddiad cais Llywodraeth y Cynulliad am bwerau i ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg yw'r cam diweddara yn y frwydr hir i gael statws swyddogol i'r Gymraeg.

Mae'n syndod efallai nad yw deddfau'r Deyrnas Unedig yn datgan yn un man fod Saesneg yn iaith swyddogol.

Yn wahanol i ieithoedd lleiafrifol rhai gwledydd eraill, dyw defnyddio'r Gymraeg erioed wedi bod yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Byw dan gysgod deddfau Harri'r VIII wnaeth y Gymraeg am ganrifoedd - yn enwedig y cymal enwog yn gwahardd "the singular the sinister usages and customs of Wales".

O safbwynt bywyd pob dydd roedd hynny'n golygu bod pobl yn parhau i siarad a defnyddio'r Gymraeg ac eithrio ar yr achlysuron prin hynny lle'r oedd y wladwriaeth yn ymyrryd yn eu bywydau.

Wrth i'r wladwriaeth dyfu yn ystod y ddwy ganrif ddiwetha, fe ddaeth y gwahaniaeth statws rhwng y ddwy iaith yn fwy amlwg.

Pwysau

O'r 1950au ymlaen roedd pwysau cynyddol am newid yn y ddeddf i sicrhau rhywfath o statws swyddogol i'r Gymraeg.

Ymateb llywodraeth Harold Wilson oedd Deddf Iaith 1967, mesur digon cyfyng ond un oedd yn symbolaidd bwysig.

O ganlyniad i'r ddeddf caniatawyd y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn a chafodd cytundebau yn Gymraeg eu cydnabod fel cytundebau cyfreithiol.

Doedd 'na ddim byd yn y ddeddf i orfodi na chymell cyrff cyhoeddus i ddefnyddio'r iaith, er bod nifer wedi dewis gwneud hynny yn y blynyddoedd dilynol.

Yn 1993, cafwyd ail ddeddf iaith i wneud hynny'n ofynnol.

'Rhesymol'

Roedd y ddeddf newydd yn datgan bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus lunio cynllun i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwasanaethau yn Gymraeg cyn belled â bod hynny yn "resymol".

Mae cynnwys y cynlluniau iaith yn hyblyg.

Mae cynllun iaith Sir Fynwy, er enghraifft, yn wahanol iawn i un Sir Gaerfyrddin ac yn adlewyrchu natur ieithyddol y ddwy sir.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n barnu beth sy'n "rhesymol" yn achos pob corff cyhoeddus.

Gwrthododd y Llywodraeth Geidwadol alwadau i gynnwys y sector preifat yn neddf 1993 ac, er bod nifer o fusnesau preifat yn defnyddio'r Gymraeg, does 'na ddim gorfodaeth arnyn nhw i wneud hynny.

Nid deddf newydd yw'r cais neu'r gorchymyn sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Trosglwyddo

Gorchymyn yw hwn fyddai'n trosglwyddo'r hawl i ddeddfu ynglŷn â'r Gymraeg o San Steffan i Fae Caerdydd.

Mater i Aelodau'r Cynulliad fydd penderfynu sut i ddefnyddio'r pŵer hwnnw.

Rhaid i'r Senedd a'r Cynulliad gymeradwyo'r cais cyn iddo ddod i rym ac mae'n debyg y bydd 'na ymdrechion yn San Steffan i gyfyngu ar hawl y cynulliad i orfodi busnesau a chwmnïau i ddefnyddio'r iaith.

Mae'n debyg y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn erbyn ymdrechion Aelodau Seneddol i lastwreiddio'r cais.

Ac mae sicrhau mesur iaith newydd yn flaenoriaeth i weinidogion Plaid Cymru ac maen nhw'n debyg o bwyso ar eu cyd-weinidogion Llafur i beidio ag ildio tir.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Iaith: Cais am fwy o bwerau
02 Chwef 09 |  Newyddion
Sector preifat: Defnyddio'r iaith?
23 Ion 09 |  Newyddion
Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod'
15 Ion 09 |  Newyddion
Dim Cymraeg 'yn warthus'
11 Meh 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific