British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Ionawr 2009, 16:09 GMT
Heddlu'n cefnogi staff hoyw

Pencadlys Heddlu'r Gogledd
Bydd cyfres o ddigwyddiadau dros y mis nesaf
Fe gafodd baner enfys ei chodi uwchben pencadlys heddlu i nodi dechrau digwyddiadau i nodi mis Hanes Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol.

Trefnwyr y dathliadau yw Cymdeithas Heddlu Hoyw Gogledd Cymru ac mae Cymdeithas y Prif Gwnstabliaid a mudiad Stonewall Cymru yn cefnogi.

Symbol yw'r faner o frwydr pobl hoyw i gael cydnabyddiaeth a chydraddoldeb ers blynyddoedd.

'Parch mawr'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Ian Shannon, ei fod yn cymeradwyo gwaith Cymdeithas Heddlu Hoyw'r Gogledd.

"Mae rhywioldeb yn bwnc personol a chynhyrfiol ac mae gen i barch mawr at y gymdeithas sydd wedi gweithio dros y blynyddoedd i hybu cydraddoldeb o fewn ein sefydliad.

"Rydw i'n falch iawn o'n staff a'n swyddogion hoyw a dwi'n gobeithio y bydd y digwyddiad yn gyrru neges glir wrth i ni anelu at gydraddoldeb."

'Arwydd gwych'

Jenny Porter yw swyddog cysylltiadau cymunedol mudiad Stonewall Cymru.

"Mae'n arwydd gwych i bobol lesbiaidd, hoyw a deurywiol gogledd Cymru, yn dangos faint y mae'r heddlu wedi newid ac mae'n annog pobol i fod yn hyderus wrth adrodd am droseddau homoffobig i'r heddlu ...," meddai.

"Mae'r faner yn arwydd ein bod ni'n dathlu'r ffaith bod y byd yn llawn o bobl gyda thueddiadau rhywiol gwahanol ac y dylai pawb gael eu trin yn gyfartal a chyda pharch."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Mwy o droseddu yn erbyn hoywon
25 Meh 07 |  Newyddion
'Llai parod i dderbyn hoywon'
25 Meh 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific