British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Ionawr 2009, 13:06 GMT
Parcio: Cyngor yn colli 90,000

Peiriant tocynnau parcio
Roedd y peiriannau tocynnau parcio wedi torri am rai misoedd

Mae peiriannau tocynnau parcio wedi costio 90,000 i gyngor sir oherwydd nam dros gyfnod o bedwar mis.

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod pump peiriant yn Aberystwyth, Aberaeron a Chei Newydd wedi torri yn ystod yr haf diwethaf, a bod oedi cyn gosod peiriannau newydd yn eu lle.

Bu'n rhaid i'r cyngor brynu peiriannau ail law gan Gyngor Sir Gr.

Mae'r Cyngor yn amcangyfrif colledion o 90,000 oherwydd y nam.

Fis diwethaf, daeth hi i'r amlwg fod tocynnau wedi cael eu dosbarthu ar gam ers dwy flynedd i bobl oedd yn parcio yn Aberystwyth.

Ym mis Rhagfyr, dywedodd Cyngor Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys y byddai modurwyr sydd wedi derbyn dirwyon ers mis Tachwedd 2006 yn gallu hawlio'r 30 yn l.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Dydy nifer o beiriannau tocynnau Cyngor Sir Ceredigion ddim wedi bod yn gweithio'n iawn.

"Roedd peiriant newydd - yn unol 'r Ddeddf Anableddau - wedi cael ei archebu, ond oherwydd y broses o'i archebu, cafwyd oedi cyn ei ddosbarthu.

"Roedd hyn yn golygu bod y cyngor sir wedi darogan incwm o'i beiriannau tocynnau parcio gwerth 90,000 yn is na'r lefel yr oedden nhw'n ei ddisgwyl am y flwyddyn.

"Er mwyn goresgyn y broblem hon, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu peiriannau tocynnau ail law gan Gyngor Sir Gr."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cwynion am beiriannau parcio
22 Gorff 05 |  Newyddion
Dirwyon parcio: 'Colli ffordd'
10 Rhag 08 |  Newyddion
Beilaid i gasglu dirwyon parcio
22 Tach 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific