British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Ionawr 2009, 12:19 GMT
250,000 at glefyd arennau

Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Caerdydd: Ennill yn cael ei ystyried yn fraint

Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i gael mwy na 250,000 ar gyfer ymchwil i glefyd yr arennau.

Ac mae'n un o dri sefydliad yn y byd i gael grant gan gwmni gofal iechyd Baxter.

Ers 1989 mae'r cwmni wedi rhoi dros 30 miliwn i 265 o ymchwilwyr mewn 24 gwlad ac mae llawer ohonyn nhw wedi cyhoeddi canlyniadau pwysig.

Dywedodd y cwmni fod y clefyd yn effeithio ar nifer gynyddol o bobol drwy'r byd.

Erbyn hyn mae 1.8 miliwn o bobl angen aren newydd a 1.4 miliwn yn cael triniaeth dialysis.

Panel annibynnol

Grantiau cwmni Baxter
Ewrop - Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd
Gogledd America - Ysgol Feddygol Harvard, Boston
Asia - Ysgol Feddygol Prifysgol Jikei, Tokyo

Roedd y cwmni wedi trafod phanel meddygol annibynnol, gwyddonwyr amlwg, cyn cymeradwyo'r ceisiadau am grantiau.

Mae ennill yn cael ei ystyried yn fraint.

Dywedodd un cyn-enillydd, Dr Simon Davies o Brifysgol Keele yn Swydd Stafford: "Roedd cael y grant yn golygu lefel uchel o gydnabyddiaeth o fewn y brifysgol ac yn ehangach.

"Mae hynny yn ei dro yn gallu denu pobl o safon uchel aton ni, sydd wedi codi proffeil yr uned aren yn y brifysgol."

Cwmni Baxter greodd un o'r peiriannau dialysis cyntaf erioed dros 50 mlynedd yn l a nhw greodd y peiriant sy'n golygu y gall dioddefwyr gael triniaeth o'r fath yn eu cartref.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Canser: Ymgyrch i gael cyffur
23 Medi 08 |  Newyddion
Rhoddwyr organau: Ymgyrch
13 Mai 08 |  Newyddion
Mwy angen trawsblaniad aren
13 Maw 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific