British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Ionawr 2009, 14:25 GMT
Cynefin Cymru'n denu'r dyfrgi, yn l gwaith ymchwil

Dyfrgi
Mae'r dyfrgi yn ffynnu yn y de orllewin, yn l y gwaith ymchwil

Mae cynefin de orllewin Cymru'n bwysig iawn i'r dyfrgi, yn l gwaith ymchwil newydd.

Am flynyddoedd, roedd pryder bod nifer y dyfrgwn yn lleihau oherwydd bod cemegyn gwenwynig yn cael ei ddefnyddio ar y tir.

Ond mae astudiaeth gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn dangos bod y creaduriaid bellach yn ffynnu oherwydd natur afonydd ac arfordir yr ardal.

Roedd y gwaith ymchwil yn edrych ar bedwar safle ym Mhenrhyn G?yr, ac 21 o safleoedd yn Sir Benfro.

Diet amrywiol

Mae'r ymchwil yn dangos bod cynefin y dyfrgi yn parhau i newid.

Ac er bod rhai o'u bwydydd traddodiadol fel y llysywod yn mynd yn brinnach, mae'r astudiaeth hefyd yn dangos bod diet y dyfrgi bellach yn amrywiol iawn.

Mae'r dyfrgi yn ffordd wych o fesur iechyd afon
Iolo Williams
Mae'r dyfrgi yn cael ei ddisgrifio fel un o'r rhywogaethau mwyaf pwysig o safbwynt cadwraeth.

Yn l y naturiaethwr Iolo Williams mae ffyniant y dyfrgi yn ffordd o fesur pa mor iach ydi afonydd Cymru.

"Mae ar ben y gadwyn fwyd," meddai.

"Os oes 'na ddyfrgwn yna mae 'na bysgod...os oes 'na bysgod yna mae 'na bryfetach...os oes 'na bryfetach yna mae 'na blanhigion iach, felly mae'r ffaith bod nhw yn cynyddu yn dangos bod ein hafonydd ni yn iachach na' maen nhw wedi bod ers canrif a mwy mewn sawl achos."

Hyd yma, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil ar y dyfrgi wedi cael ei wneud yn Yr Alban.

Ond yn l Dr Gareth Parry, oedd yn rhan o'r tm ymchwil yn Abertawe, mae eu hastudiaeth nhw yn dangos y gallai poblogaeth y dyfrgi yng Nghymru fod yn fwy o gymorth tuag at gynyddu eu niferoedd yn Lloegr.

Dywedodd bod de orllewin Cymru yn un o'r ardaloedd pwysicaf yng Nghymru, os nad Prydain, ar gyfer y dyfrgi, yn bennaf oherwydd cyflwr yr afonydd a natur amrywiol yr arfordir.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific