Dywed trigolion bod y pontydd yn hyll.
Mae dwy bont sy'n cario seiclwyr a cherddwyr dros yr A55 wedi cael eu beirniadu gan drigolion am eu "cynllun erchyll".
Mae'r pontydd yn croesi'r ffordd ger Llanfairfechan a Phenmaenmawr yng Nghonwy er mwyn galluogi seiclwyr a cherddwyr i groesi'n ddiogel.
Dywedodd un o drigolion Penmaenmawr, Ann Ruffell, bod cyfle wedi ei golli i gael "rhywbeth crwm a phrydferth".
Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad cafodd y pontydd eu dewis am resymau diogelwch, rhwyddineb cynnal a chadw a gwerth am arian.
"Roeddwn yn meddwl eu bod yn bethau hyll pan welais y pontydd yn cael eu codi," meddai Ms Ruffell.
"Rwy'n edrych ymlaen at gerdded y ffordd yna, ond roeddwn yn gobeithio am rywbeth bach mwy cain na'r pontydd beili bolltiog sydd wedi eu gosod yno," ychwanegodd.
Dywedodd hefyd y buasai ongl y pontydd yn eu gwneud yn anodd i seiclwyr eu defnyddio.
"Mae'n mynd i fod yn anodd mynd o gwmpas y troeon ar yr ongl dde oherwydd bod yna droad siarp i'r chwith yn cael ei ddilyn gan droad siarp i'r dde" ychwanegodd.
Y bont seiclo ar ochr Llanfairfechan
Dywedodd Kenneth Kearton-Smith, sy'n byw yn y tŷ agosaf at y bont yn Llanfairfechan ei fod yn credu ei fod yn brosiect peirianneg na ddylai fod wedi gweld golau dydd.
"Mae'n fy atgoffa o'r llwybrau cerdded yng nghanolfannau siopa mawr Leeds.
"Does dim gwerth esthetaidd o gwbl," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad mai'r amcan oedd darparu llwybr diogel ar gyfer cerdded a seiclo dros y rhan yma o'r ffordd.
"Rydym wedi cyflawni hyn o fewn y gyllideb a'r amserlen a osodwyd," meddai.
"Mae'r cynllun, sy'n debyg iawn i bontydd troed eraill yn yr ardal, hefyd yn cael ei gyfyngu gan y lleoliad ac agosatrwydd y twnnel."
|