British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2009, 06:52 GMT
Estyn: 'Rhaid cau ysgolion'

Dosbarth
Does 'na ddim digon o amser yn cael ei roi i ddysgu Cymraeg fel ail iaith

Cynghorwyr sydd ddim yn fodlon cymryd penderfyniadau anodd i gau ysgolion sy'n cael eu beio am ddosbarthiadau hanner gwag, yn ôl adroddiad gan Estyn.

Mae'r corff sy'n arolygu ysgolion yn nodi yn eu hadroddiad blynyddol bod yr aelodau etholedig yn rhwystro rhai cynghorau rhag bwrw mlaen gyda chynlluniau i ad-drefnu ysgolion o fewn awdurdodau.

Dywed yr adroddiad hefyd bod addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwella tra bod dysgu Cymraeg fel ail iaith yn gwaethygu.

Ond ar y cyfan mae addysg yn gwella yng Nghymru.

Dywed yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, bod safonnau mewn ysgolion cynradd yn well na chwe blynedd yn ôl, pan gafodd yr archwiliad blaenorol ei wneud.

Roedd 84% o'r gwersi yn dda neu yn dda iawn.

Ad-drefnu ysgolion

Ac mae Addysg Bellach yn parhau i wneud yn well na thargedau Llywodraeth y Cynulliad.

Dr Bill Maxwell yn Ysgol Gatholig Sant Joseph, Tredegar
Dr Bill Maxwell yn Ysgol Gatholig Sant Joseph, Tredegar

Ond dywed yr adroddiad bod 'na ormod o lefydd gwag mewn ysgolion.

Mae Estyn yn rhoi'r bai ar awdurdodau addysg lleol.

"Mae nifer o awdurdodau yn methu cyflwyno rhaglenni ad-drefnu am fod gormod o aelodau etholedig yn gwrthod gwneud penderfyniadau anodd, i gau ysgolion," meddai'r Prif Arolygydd Bill Maxwell.

Mae dwy ran o dair o ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn gwneud darpariaeth da i hybu dwyieithrwydd yn ôl yr adroddiad.

Ond mae dysgu Cymraeg fel ail iaith yn waeth na phynciau eraill gyda nifer o ddisgyblion ddim yn gwneud cystal mewn arholiadau TGAU o oherwydd "nad ydyn nhw'n cael digon o wersi a bod ansawdd y dysgu yn wael".

Dysgu drwy weithio

Mae'r adroddiad hefyd yn tanlinellu'r angen i wella'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ôl 16 oed.

Mae 'na fwy a mwy o addewid i gynnig mwy o ddewis i ddisgyblion 14-19 oed.

Dywed Estyn eu bod yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gwneud cam araf ymlaen, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau academaidd a galwedigaethol, a bod gwell perthynas gyda cholegau a darparwyr sy'n cynnig dysgu drwy weithio.

Ond mae'r arolygwyr am weld gwell cydweithio a chyfle i wella profiadau gwaith disgyblion.

"Mae'n rhaid i bartneriaethau o wahanol sectorau ac ardaloedd daearyddol gwahanol rhannu gwybodaeth a sgiliau er mwyn cael budd llawn," meddai Dr Maxwell.

Mae Estyn hefyd yn cydnabod yr angen i dorri cysylltiad rhwng tlodi a disgyblion sy'n tangyflawni.

Mae plant o gefndiroedd di-grefft bum gwaith yn llai tebygol o fynd ymlaen i addysg uwch na'r rhai o gefndiroedd mwy cefnog.

Dywed yr adroddiad bod angen i awdurdodau lleol gael gwellt dealltwriaeth i gefnogi dysgwyr sydd o dan anfantais gymdeithasol.

"Dydi'r sialensiau yma ddim yn unigryw i Gymru...," meddai Dr Maxwell.

"Mae cyflwyno newid i gyrraedd y nod, yn gyfrifoldeb ar bawb, yn ddysgwyr, athrawon, rheolwyr y ddarpariaeth, awdurdodau lleol, y rhai sy'n gwneud polisďau cenedlaethol ac yn wir, Estyn."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Estyn: 'Dylai ysgolion newid'
21 Maw 07 |  Newyddion
Ysgol: Mesurau arbennig ar ben
10 Ion 09 |  Newyddion
Mesurau arbennig i ysgol
22 Ion 09 |  Newyddion
Sir 'siomedig' yn ennill tir
14 Awst 08 |  Newyddion
Poeni am ddyfodol cyrsiau dysgu
22 Ion 09 |  Newyddion
Addysg Gymraeg: 'Pryder difrifol'
17 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific