British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Ionawr 2009, 11:48 GMT
'Teyrnged addas'

Alfred Russel Wallace
Syniadau Wallace yn 'ysbrydoli' Darwin

Mae ynys yn Indonesia yn dathlu bywyd naturiaethwr o Gymro oherwydd ei ymchwil i esblygiad.

Roedd syniadau Alfred Russel Wallace yn debyg i rai Charles Darwin ond Darwin erbyn hyn sydd fwyaf enwog.

Mae awdurdodau ynys Ternate wedi penderfynu enwi stryd ar l y Cymro ac am ailadeiladu ei gyngartre yno.

Hefyd mae yna gynllun i godi Arsyllfa Wallace fydd yn ymchwilio i blanhigion ac anifeiliaid yn nwyrain Indonesia.

'Syniad gwych'

Dywedodd Dr George Beccaloni, curadur yr Amgueddfa Hanes Naturiol a chadeirydd Cronfa Goffa Alfred Russel Wallace, fod hon yn deyrnged addas.

"Dwi'n meddwl ei fod yn syniad gwych," meddai.

"Os ydyn nhw'n ailgodi'r tŷ, fe fyddan nhw ei droi'n amgueddfa i goffu Wallace.

"Ac maen nhw hefyd yn y broses o godi rhywfath o gofeb iddo y tu allan i'r adeilad."

Mae'n ddau ganmlwyddiant geni Charles Darwin a 150 mlynedd ers cyhoeddi ei waith enwocaf, On The Origin Of Species.

Roedd y llyfr yn cyfeirio at theori chwyldroadol am sut y daeth dynolryw i fodolaeth.

Ond flwyddyn cyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi, fe anfonodd Wallace lythyr at Darwin o ynys Ternate a thraethawd yn nodi syniadau tebyg.

Fe gyhoeddodd y ddau erthygl mewn papur ym mis Awst 1858 ond chafodd honno fawr o sylw.

Ond pan gyhoeddwyd On The Origin Of Species flwyddyn yn ddiweddarach tra roedd Wallace yn dal yn Indonesia roedd yr effaith yn syfrdanol.

Sylw haeddiannol

Er i Wallace gael ei anwybyddu i bob pwrpas ar l ei farwolaeth, fe gafodd sylw haeddiannol tra oedd yn fyw, meddai Dr Beccaloni.

"Chafodd Wallace mo'i anwybyddu yn ystod ei fywyd, ond wedi iddo farw fe gafodd Darwin fwy a mwy o sylw wrth i wyddonwyr ganolbwyntio arno."

Roedd Wallace, meddai, wedi derbyn sawl medal i nodi ei waith, gan gynnwys yr Urdd Teilyngdod - yr anrhydedd fwya y gallai'r brenin roi i berson cyffredin.

Ganwyd Wallace yn Llanbadog ger Brynbuga yn Sir Fynwy yn 1823 - yr wythfed o naw o blant.

Cannoedd

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn natur pan oedd yn dirfesurydd gyda'i frawd yng Nghastell-nedd.

Fe deithiodd i Dde America a'r Dwyrain Pell a chyhoeddi mwy nag 20 o lyfrau a channoedd o erthyglau.

Roedd yn cydnabod fod Darwin wedi datblygu'r theori o esblygiad o'i flaen ond yn derbyn nad oedd wedi cyhoeddi'r syniadau tan i Wallace gytuno a'i gefnogi.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific