Deellir fod 10 disgybl wedi eu gyrru adre
|
Mae pobl yn cael eu hannog i gael y brechiad MMR oherwydd 16 achos o glwy'r pennau yng Ngwynedd a Môn ers mis.
Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru fod 15 o'r rhai gafodd eu heffeithio wedi cael y dau frechiad MMR sy'n cael eu hargymell.
Deellir fod 10 disgybl o Amlwch wedi cael eu gyrru adre gyda'r clefyd ac mae meddygon teulu yn gwybod am y broblem.
Yn ôl y gwasanaeth iechyd, mae modd weithiau gael clwy'r pennau ar ôl derbyn y brechiad MMR sydd i fod i amddiffyn yn erbyn hynny ynghyd â'r frech goch a'r frech Almaenig.
'Rhy hen'
Dywedodd arbenigwraig ar glefydau heintus, Dr Judy Hart: "Mae pobol ifanc dros 16 oed yn rhy hen i fod wedi derbyn ail ddôs y brechiad pan gafodd ei gyflwyno ym 1996.
"Y nhw sy'n fwya tebygol o gael clwy'r pennau ac maen nhw angen ail ddôs nawr."
Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol wedi gyrru llythyr i holl feddygon teulu'r ardal i'w rhybuddio i fod yn wyliadwrus am achosion o'r haint.
|