Mae rhai yn credu bod modd cynhyrchu hyd at 7% o drydan Prydain.
|
Mae Ysgrifennydd Ynni San Steffan, Ed Milliband, wedi cyhoeddi rhestr fer o bump o gynlluniau allai gynhyrchu trydan yn Afon Hafren.
Un ohonyn nhw yw creu morglawdd a allai estyn o Drwyn Larnog ger Sili ym Mro Morgannwg i Bwynt Brean ger Weston-Super-Mare yng Ngwlad yr Haf.
Gallai hyn gynhyrchu hyd at 5% o drydan gwledydd Prydain.
Cynllun arall yw morglawdd Shoots, cynllun yn uwch i fyny'r afon allai gynhyrchu tua 1GW o drydan sy'n cyfateb i safle tanwydd ffosil mawr.
Cynllun llai yw morglawdd Beachley, uwchen Afon Gwy, allai gynhyrchu 625MW.
Mae morlyn Bae Bridgwater ar y rhestr, cynnig fyddai'n cronni rhan o'r aber ar yr arfordir i'r dwyrain o Bwynt Hinkley a Weston-Super-Mare, allai gynhyrchu 1.36GW.
Ac yn olaf, mae morlyn Fleming, cynllun tebyg fyddai'n creu'r un maint o bŵer o ran o arfordir Cymru rhwng Casnewydd a chroesfannau ffordd Afon Hafren.
'Chwyldro'
Dywedodd Morgan Parry, pennaeth WWF Cymru: "Mae WWF yn credu bod chwyldro yn ein systemau ynni'n hanfodol er mwyn i ni ymdrin â heriau'r newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni.
"Mae WWF yn falch bod morlynnoedd yn cael eu hystyried fel dewisiadau ar wahân i'r morglawdd mawr.
"Fodd bynnag, wrth beidio â chynnwys syniadau eraill mwy arloesol ar y rhestr fer, mae'n bosibl bod y llywodraeth yn peryglu ei gallu i ganfod yr ateb mwyaf cynaliadwy.
"Rydym yn annog y cyhoedd i roi ystyriaeth ddifrifol i'r dewisiadau eraill fel cynigion Ffensys Llanw a Ffrydiau Llanw a'r llywodraeth i fuddsoddi amser ac arian i ddod â nhw i stad lle maen nhw'n barod iawn i gael eu defnyddio."
Cynlluniau llai
Mae arbenigwyr yn credu bod modd cynhyrchu hyd at 7% o drydan gwledydd Prydain drwy godi morglawdd fyddai'n costio tua £15 biliwn.
Ond mae mudiadau'n gwrthwynebu ar sail cost ac am resymau amgylcheddol.
Mae rhai mudiadau fel elusen gwarchod adar yr RSPB am weld cynlluniau llai.
Byddai'r morglawdd yn croesi o Gymru i Loegr.
|
Fe fyddai'r morglawdd yn ffrwyno pŵer y llanw drwy ddefnyddio argae hydro-electroneg.
Eisoes mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y byddai'r datblygiad yn fodd o ddiogelu cyflenwadau ynni.
Mae rhai grwpiau amgylcheddol wedi rhybuddio am "ddinistr ecolegol" o ganlyniad i'r morglawdd.
Yn ôl ymgyrchwyr, gallai 14,000 hectar o forfa gael eu colli wrth i'r gwaith adeiladu gael ei wneud ac fe fyddai hyn yn effeithio ar adar ymfudol.
Gallai hefyd effeithio ar boblogaeth pysgod yn afonydd Hafren, Gwy ac Wysg sy'n llifo i'r aber uwchben lleoliad y morglawdd.
|