British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Ionawr 2009, 10:11 GMT
Sector preifat: Defnyddio'r iaith?

Bwrdd gwyn
Gorfodi cwmnau i rhoi statws cyfartal i'r ddwy iaith

Mae manylion wedi cael eu datgelu ynglŷn chais Llywodraeth y Cynulliad am bwerau deddfu allai olygu bod cwmnau preifat yn gweithredu'n ddwyieithog.

Fe allai cwmnau ynni a thelegyfathrebu gael eu gorfodi i ddefnyddio'r Gymraeg os yw'r cynlluniau'n cael sl bendith yn San Steffan.

Dyw hi ddim yn amlwg beth yn union y bydd y llywodraeth yn ceisio ei wneud gyda'r pwerau newydd ond gallai cwmniau mawr yn y sector preifat gael eu gorfodi i ddefnyddio'r Gymraeg.

Fe allai cwmnau fel Vodaphone a Virgin Media weithredu yn yr un modd chwmnau fel BT gafodd ei breifateiddio ac sydd eisoes yn rhoi gwasanaeth Cymraeg.

Cymal 'Thomas Cook'

Mae'n bosib y bydd hyn yn effeithio ar gwmnau trenau, darparwyr ynni a chymdeithasau tai - a'r banciau gafodd arian yn ddiweddar oddi wrth Lywodraeth Prydain.

Siop Thomas Cook
Cymal i sicrhau'r hawl i siarad Cymraeg yn y gweithle?

Dywedodd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, taw rhain fyddai'r uchafswm o bwerau yr oedd modd i'r cynulliad ei gael.

"Mae 'na gyfres o gymalau yn y cais a rhai'n weddol ddiniwed fel yr hawl i gyflwyno Comisiynydd Iaith fyddai'n cymryd rhai o bwerau Bwrdd yr Iaith.

"Ac mae 'na gymal sy'n cael y llysenw 'Thomas Cook' fydd yn rhoi'r hawl i sicrhau rhyddid i siarad Cymraeg yn y gweithle.

"Ond wedyn y cymalau mwya dadleuol efallai yw'r rhai sy'n ymwneud 'r sector preifat."

200,000

Roedd y cais, meddai, yn cyfeirio at gwmnau trydan, nwy a thelegyfathrebu.

"Cymal diddorol fydd yr un sy'n nodi y byddai gan y cynulliad yr hawl i orfodi unrhyw gwmni sy'n derbyn mwy na 200,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus ac yn darparu gwasanaeth i'r cyhoedd i ddefnyddio'r iaith," meddai.

"Mae'n werth nodi bod y cymal yn sn am arian cyhoeddus nid arian cynghorau lleol Cymru na'r cynulliad ac fe allai cyrff fel Banc Lloyds, sydd wedi cael arian cyhoeddus yn ddiweddar, fod yn dod yn y mesur.

"Gallai hyn hefyd gynnwys rhai o'r archfarchnadoedd, gan eu bod nhw yn derbyn arian i hyfforddi prentisiaeth."

Fe fydd rhaid i'r cwmnau baratoi cynlluniau iaith fel cwmnau yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd nad oedd y mwyafrif o bobl yn disgwyl y byddai mwy a mwy o'r sector preifat yn gorfod dilyn deddfwriaeth iaith.

Mwy o hawl

Roedd dogfen Cymru'n Un, arweiniodd at lywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru, wedi dweud eu bod yn bwriadu ceisio cael mwy o hawl i ddeddfu o safbwynt y Gymraeg:

"Gyda'n gilydd, byddwn yn gweithio i ehangu cwmpas y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer yr iaith Gymraeg sydd wedi'i gynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol blwyddyn gyntaf Llywodraeth y Cynulliad gyda'r nod o greu Mesur Cynulliad newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg, hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau a sefydlu swydd Comisiynydd Iaith."

Fe fydd rhaid i'r cynulliad a San Steffan gymeradwyo'r cais am fwy o bwerau cyn dechrau llunio mesur allai gymryd sawl blwyddyn cyn cyrraedd y llyfr statud.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod'
15 Ion 09 |  Newyddion
Dim Cymraeg 'yn warthus'
11 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific