Mae Neuadd Hoddinott yn debyg i gapel Cymreig traddodiadol
Mae'r cyngherddau cyntaf yn cael eu cynnal i nodi agoriad swyddogol cartref newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Fe fydd Neuadd Hoddinott y BBC yn cynnig lle i 350 ac mae'n rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.
Cafodd y neuadd ei henwi ar ôl y cyfansoddwr, Alun Hoddinott, a fu ym mis Mawrth 2008.
Mae'n gartref parhaol a phwrpasol ar gyfer y gerddorfa a fydd yn agor y drws i'r cyhoedd gael mwynhau'r weld.
Fe fydd y gerddorfa yn cynnal cyngherddau bob nos Iau a nos Wener ac yn ganolbwynt ar gyfer eu gwaith cymunedol.
Roedd yr hen gartref, yn adeilad BBC Cymru yn Llandaf, yn rhy fach i'r gerddorfa a fu yno am dros 40 mlynedd.
Llwyfan disglair
Dywedodd rheolwraig BBC Cymru, Menna Richards, fod Neuadd Hoddinott y BBC yn "gydnabyddiaeth" bod cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd y Cymry ac o Gymru fel cenedl.
Bu farw Alun Hoddinott ym mis Mawrth 2008
|
"Ers i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gael ei sefydlu 80 mlynedd yn ôl, nid yn unig y mae hi wedi dod â'r clasuron i Gymru ond mae hi hefyd wedi rhoi llwyfan i'w chyfansoddwyr disglair," meddai.
"Mae hwn yn achlysur arbennig, nid yn unig i'r gerddorfa ond i gerddoriaeth yng Nghymru ac yn gydnabyddiaeth fod cerddoriaeth a'r celfyddydau ynghanol yr hyn yw Cymru a sut rydyn ni'n ein diffinio ein hunain fel cenedl."
Fe weithiodd Mr Hoddinott mewn partneriaeth â'r gerddorfa am sawl degawd.
Roedd yn flaenllaw yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru fel cyfansoddwr ac fel Athro Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Tristwch
Roedd hefyd yn drefnydd gwyliau a chyngherddau.
Mae BBC Cymru wedi comisiynu gwaith celf a fydd cael ei arddangos wrth fynedfa'r neuadd sy'n ddathliad o fywyd y cyfansoddwr.
Lubna Chowdhory gyda'i gwaith celf y tu cefn iddi
|
Dywedodd cyfarwyddwr y gerddorfa, David Murry bod 'na rhywfaint o dristwch.
"Fydd Alun Hoddinott ddim gyda ni.
"Fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yn ystod 2009.
"Roeddwn i'n nabod Alun yn dda yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n gobeithio bod ei frwdfrydedd am ragoriaeth, a'i gred mewn lle rhyngwladol i Gymru yn y byd cerddorol, yn cael ei adlewyrchu yn ein gobeithion ni'n hunain am y dyfodol."
Fe fydd y gerddorfa yn parhau i berfformio cyngherddau mawr yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.
Fe fydd Stiwdio Grace Williams yng Nghanolfan y Mileniwm ar gael ar gyfer gwaith cymunedol y gerddorfa sydd hefyd yn teithio'r byd.
O ran yr adeilad ei hun, mae'n debyg ac yn asio gyda Chanolfan y Mileniwm.
Tu mewn mae gan y neuadd ei delwedd ei hun.
"Roeddem am greu naws ac ymdeimlad o gapel," meddai Tim Green o'r cwmni penseiri, Capital Architecture.
"Roedd traddodiadau corawl Cymru'n gweddu i'r dim.
"Mae'r pren ar lefel isel yn eich atgoffa o gapeli Fictorianaidd, yn ogystal â'r garreg, ac mae'r garreg y byddech chi fel arfer yn ei gael mewn capel cerrig wedi ei ddisodli gan goncrit."
|