British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Ionawr 2009, 18:44 GMT
Y fenter iaith gyntaf yn dathlu

Swyddfa'r Fenter Iaith
Fe gafodd ei sefydlu wedi Eisteddfod yr Urdd

Mae Menter Iaith gyntaf Cymru yn 18 oed.

Pan gafodd Menter Cwm Gwendraeth ei sefydlu ym 1991 dim ond dau o bobl oedd yn cael eu cyflogi.

Bellach mae 67 yn gweithio i'r mudiad sy'n hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn ardal Cwm Gwendraeth.

Sefydlu'r fenter oedd y cam cyntaf cyn sefydlu mentrau ar draws Cymru gyfan.

Yn l Deris Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth, ymweliad Eisteddfod yr Urdd Chwm Gwendraeth yn 1989 oedd y sbardun.

"Roedd y pwll glo olaf yn y cwm ar fin cau ac ro'n i'n meddwl bod angen gweithredu," meddai'r fenyw sydd wedi gweithio i'r fenter ers y dyddiau cyntaf.

"Ry'n ni wedi llwyddo i fynd 'r Gymraeg i feysydd newydd.

Cydweithio

"Mae'n galonogol bod pobl y cwm wedi perchnogi'r fenter ac yn barod i gyfrannu a gofyn am gyngor.

"Ry'n ni am ddiolch am gefnogaeth pobl yr ardal dros y 18 mlynedd ddiwethaf."

Dywedodd mai'r her dros y blynyddoedd nesaf fyddai sicrhau rl i'r sector gwirfoddol ar lefel gymunedol drwy gydweithio gyda phartneriaethau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Deris Williams
Deris Williams oedd un o sylfaenwyr y fenter

"Mae angen i ni gael cytundebau i gynnal gwasanaethau ar lawr gwlad," meddai.

"Er enghraifft, mae gan y fenter wasanaeth arbennig i helpu pobol hŷn sy'n cael eu cludo i ysbytai yn yr ardal, Menter Min Nos.

"Mae'r fenter wedi aros yr un peth o ran amcanion.

"Ond dros y blynyddoedd ry'n ni wedi newid y ffordd ry'n ni'n gweithredu drwy edrych ar faes cynllunio cymunedol a gweithio ar draws sectorau penodol, er enghraifft, iechyd a lles, yr amgylchedd, adfywio a diogelwch cymunedol, addysg gydol oes a phlant a phobl ifanc.

"Byddai'r aradal yn llawer mwy llwm heb y fenter."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Hwb o 300,000 i fenter iaith
19 Tach 08 |  Newyddion
Iaith: Dau ar daith i'r Wladfa
18 Ebr 08 |  Newyddion
Hyrwyddo'r iaith dros y mr
31 Ion 08 |  Newyddion
Menter Iaith newydd yn y de
19 Hyd 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific