British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2009, 07:49 GMT
Gohirio cynllun ysbyty newydd

Llun artist o'r ysbyty
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Hart fod y rhesymau clinigol i gefnogi'r ysbyty newydd yn gymhleth, ac fod angen cynllun cadarn.

Cafodd swyddogion iechyd orchymyn i edrych o'r newydd ar gynllun gwerth 292 miliwn i godi ysbyty gofal arbennig newydd yn y De-Ddwyrain.

Roedd yr ysbyty yng Nghasnewydd neu Dorfaen yn rhan o gynllun ehangach Ymddiriedolaeth GIG Gwent i'r dyfodol, sy'n cynnwys chwech ysbyty lleol.

Ond dywed gweinidog iechyd Cymru, Edwina Hart, ei bod am weld mwy o waith sy'n dangos fod y cynlluniau yn "uchelgeisiol, yn iawn, ac y gallan nhw gael eu cyflawni."

Mae'r Cyngor Iechyd Cymunedol lleol yn rhannu siom y Gwasanaeth Iechyd lleol am y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Hart fod y rhesymau clinigol i gefnogi'r ysbyty newydd yn gymhleth, ac fod angen cynllun cadarn.

Ysbyty Brenhinol Gwent
Un cartref posib oedd gerllaw Ysbyty Brenhinol Gwent

Roedd disgwyl i'r ysbyty newydd fod naill ai yng Nghasnewydd - gerllaw safle presennol Ysbyty Frenhinol Gwent - neu ar safle ger Llanfrechfa yng Nghwmbrn.

Doedd aelod cynulliad De-Ddwyrain Cymru, Mike German, ddim yn hapus gyda'r penderfyniad, gan ddweud nad oedd y cynllun nawr yn ddigonol.

Ychwanegodd fod hyn y dewis gwaethaf posib.

"Dydd Gwener," meddai, "fe welson ni'r prif weinidog Rhodri Morgan yn canu clodydd ysbyty newydd yn Ystrad Mynach. Roedd hyn wedi'i gynllunio i dynnu sylw oddiwrth y newyddion ofnadwy yma am Wasanaeth Iechyd Cenedlaethol Gwent ar ddydd Llun."

Dywedodd Catherine O'Sullivan, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gwent, fod y cynllun i wella'r gwasanaeth yn yr ardal yn un arloesol oedd yn boblogaidd ymysg y cyhoedd.

"Bydd rhaid i Went nawr geisio gweithredu'r cynllun yma gan ddefnyddio ysbytai sydd, yn rhannol, yn rhy hen," meddai.

"O dan yr amgylchiadau yma bydd angen astudio'n ofalus y goblygiadau i gleifion o unrhyw ail gynllun posib."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific