British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2009, 08:09 GMT
Cynllun llifogydd newydd ar waith

Llifogydd yn taro cartrefi ym Mhontypridd
Fe fydd staff yn derbyn hyfforddiant llifogydd er mwyn ymdrin ag argyfyngau

Mae ymarferion llifogydd yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod argyfyngau'n cael eu trin yn effeithiol mewn ardaloedd sy'n cael eu taro waethaf.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru'n cynnal y gweithgareddau er mwyn hyfforddi staff wrth iddyn nhw ymateb i argyfyngau.

Ddydd Llun, fe fu staff yn adeiladu clwydi gwrth-lifogydd a gosod sachau tywod yn Aberdulais ger Castell-nedd.

Fe fydd yr un drefn yn Abergwili ger Caerfyrddin ddydd Mercher, ac ym Mhontypridd ddydd Iau.

Fe fydd yn rhaid cau heol yn Abergwili er mwyn cynnal y gweithgareddau.

Dywedodd llefarydd fod yr asiantaeth wedi cynnal digwyddiadau o'r fath yn y gorffennol, ond y tro hwn fe fydd pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant.

"Rydyn ni'n hyfforddi ein staff sydd ynghlwm yn y broses o ddelio llifogydd a cheisio amddiffyn eiddo pobl."

HEFYD
Datgelu cynllun atal llifogydd
12 Medi 08 |  Newyddion
Llifogydd yn achosi problemau
13 Rhag 08 |  Newyddion
Glaw trwm: Llifogydd
26 Hyd 08 |  Newyddion
Stormydd yn achosi llifogydd
10 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific