British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 18 Ionawr 2009, 10:10 GMT
Codi cofeb i H M Sanley?

Henry Morton Stanley
Mae galw am gofio'r anturiaethwr yn y dre enedigol

Mae man geni'r anturiaethwr Henry Morten Stanley yn ystyried ei anrhydeddu gyda chofeb.

Cafodd Stanley ei eni yn Ninbych a bu'n byw pan yn blentyn yn y wyrcws yn Llanelwy.

Er gwaetha'r cysylltiadau, does 'na ddim cofeb iddo yn yr ardal, ac eithrio arddangosfeydd lleol.

Mae Ann Thomas, arbenigwr ar gelf yn arwain ymgynghoriad ar gofeb iddo.

Caiff Stanley ei gofio am ganfod yr anturiaethwr coll David Livingstone yn nwyrain Affrica yn 1871.

Wrth ei gyfarch dywedodd, "Dr Livingstone, I presume?"

Newid ei enw

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu cynnal ymchwiliad yn yr ardal ar ba fath, os o gwbl, o gofeb fyddai'n addas.

Roedd Stanley yn blentyn anghyfreithlon pan anwyd o'n John Rowlands yn 1841.

Yn fachgen ifanc cafodd ei anfon i'r wyrcws, sydd bellach yn Ysbyty HM Stanley.

Wedi gadael y wyrcws bu'n athro ac ymfudodd i America lle y newidiodd ei enw.

Bu'n ymladd yn y rhyfel cartref ac yn newyddiadurwr cyn mynd yn anturiaethwr.

Un o'r opsiynau y mae'r cyngor yn ei drafod ydi gwneud copi o'r gofeb sydd yna yn Kinshasa, prifddinas y Congo.

Yn ôl Ms Thomas mae Stanley yn haeddu cael ei gofio.

"Mae 'na nifer o gofebion ar gyfer pobl modern yn hytrach na'r gŵr yma," meddai.

"O edrych ar drefi a dinasoedd ym Mhrydain, mae 'na gofebion i John Lennon, Eric Morecambe a Brian Clough.

"Yn sicr mae Stanley yn haeddu ei le yn eu plith.

"Roedd yn un o feibion Dinbych," ychwanegodd.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cofio anturiaethwr enwog
19 Ebr 04 |  Newyddion
Prynu eiddo Cymro enwog
24 Medi 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific