Gallai Llywodraeth y Cynulliad gael yr hawl i ddeddfu
|
Mae disgwyl i gais Llywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg gael ei gyhoeddi y mis hwn.
Ac mae hyn bron blwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl.
Ond mae BBC Cymru yn deall bod Ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy, wedi rhybuddio gweinidogion y gallai'r broses fod yn "stormus".
Mae wedi cytuno i gyhoeddi'r cais am rym er bod ganddo amheuon am agweddau ar y mesur.
Un o'i bryderon, mae'n debyg, yw'r posibilrwydd y gallai adrannau Whitehall gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg.
Unwaith i'r cais am rym gael ei gyhoeddi fe fydd yn cael ei drafod yn y cynulliad a chan Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Roedd cytundeb y llywodraeth glymblaid, Cymru'n Un, wedi addo mwy o hawl i ddeddfu dros yr iaith gyda'r nod o greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg".
Dwys
Mae BBC Cymru wedi gweld gohebiaeth sy'n awgrymu bod trafodaethau dwys wedi bod rhwng Ysgrifennydd Cymru, Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a'r Twrne Cyffredinol ynglŷn â chwestiynau sylfaenol y cais am rym.
Eisoes mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn rhoi pwysau cynyddol ar Swyddfa Cymru yn Llundain i gyhoeddi'r ddogfen ar ôl oedi oherwydd dadleuon am ei chynnwys.
Mae'r mater wedi achosi tyndra rhwng Llafur a Phlaid Cymru ers misoedd diwethaf.
Y gred yw bod y cynlluniau ar hyn o bryd yn golygu grymoedd eang i'r llywodraeth i wneud cydraddoldeb ieithyddol yn orfodol yn achos rhai busnesau preifat sy'n rhoi gwasanaethau i'r cyhoedd fel cwmnïau dŵr a chwmnïau ffonau symudol.
Yn breifat, mae rhai Aelodau Seneddol Llafur wedi mynegi amheuon am estyn y ddeddfwriaeth bresennol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.
Er bod Mr Murphy wedi cytuno y gall y cynlluniau gael eu cyhoeddi, mae wedi dweud wrth weinidogion Bae Caerdydd ei fod yn amau na fydd rhai o'r cymalau yn rhan o'r drafft terfynol.
Mae disgwyl i'r cais am rym gael ei gyhoeddi tua Ionawr 26.
|