British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Ionawr 2009, 15:27 GMT
Carreg filltir i addysg Gymraeg

Rhodri Morgan ac arweinydd cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Mel Nott
Rhodri Morgan ac arweinydd cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Mel Nott

Cafodd ysgol gyfun Gymraeg gyntaf Sir Pen-y-bont ar Ogwr ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.

Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan agorodd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg.

Fe groesawodd yr ysgol ei disgyblion cyntaf, 128 o ddisgyblion Blwyddyn 7, ym mis Medi 2008.

Disgrifiodd Mr Morgan yr agoriad fel "diwrnod hapus i Ddyffryn Llynfi".

Cafodd ei gyfarch gan ddisgyblion yn canu'r delyn a chr yr ysgol cyn iddo ddadorchuddio plac wedi'i wneud o lechen Gymreig a chael cyfle i weld yr ysgol.

Cyfleusterau

Dywedodd na allai feddwl am unrhyw leoliad gwell ar gyfer yr ysgol na phentref Llangynwyd, sydd wedi ei thrwytho "mewn traddodiad, cerdd a hanes".

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Mae 130 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd

Dywedodd wrth y disgyblion fod hon yn garreg filltir bwysig yn hanes addysg Gymraeg a'i fod yn cofio mynychu dosbarthiadau ar foreau Sadwrn fel bachgen teirblwydd oed yn ysgol gynradd Gymraeg gyntaf de Cymru yn 1942.

"Mae addysg Gymraeg wedi tyfu o'r fesen fechan honno a hebddi ni fyddem yn dathlu'r ysgol fendigedig hon a'i lleoliad gwych 66 a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach."

Mae'r ysgol ar hen safle rhan o Ysgol Gyfun Maesteg.

Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd hyd at 850 o ddisgyblion 11 i 18 oed yn cael eu dysgu yno.

Mae'r cyngor sir wedi buddsoddi dros 1 miliwn er mwyn sicrhau y bydd gan ddisgyblion yr ysgol y "cyfleusterau o'r radd flaenaf".

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Dyma ysgol gyfun Gymraeg gyntaf y sir

Dywedodd y Cynghorydd Mel Nott ei fod wedi cael argraff dda o'r ysgol a'r gwaith sydd wedi ei wneud i sefydlu'r ysgol.

"Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn darparu amgylchedd gwych er mwyn i blant o bob rhan o'r fwrdeistref allu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Gall pob un ohonyn nhw deimlo balchder mawr ar y diwrnod pwysig hwn."

Roedd rhaid i ddisgyblion pedair ysgol gynradd Gymraeg y sir, Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg, Ysgol Bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Y Ferch o'r Sgr yng Nghorneli ac Ysgol Cwm Garw ym Mhontycymer, deithio dros y ffin i Rhondda Cynon Taf i Ysgol Gyfun Llanhari.

Fe fydd plant yn dal i fynd i Lanhari gyda'r disgyblion newydd yn cychwyn yn Llangynwyd.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cam ymlaen i addysg Gymraeg
03 Medi 08 |  Newyddion
Sl bendith i ysgol Gymraeg
11 Hyd 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific