British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009, 09:18 GMT
Syr Dai Llewellyn yn marw

Syr Dai Llewellyn
Bu farw Syr Dai Llewellyn ddydd Mawrth

Bu farw Syr Dai Llewellyn yn 62 mlwydd oed ddydd Mawrth.

Roedd mewn ysbyty yng Nghaint lle'r oedd yn derbyn triniaeth am ganser.

Ei frawd oedd Roddy Llewellyn a gafodd berthynas gyda'r Dywysoges Margaret.

Roedd yn fab i Syr Harry Llewellyn enillodd fedal aur am farchogaeth yn y Gemau Olympaidd.

Cafodd Syr Dai ei eni yn AberdÔr.

Daeth yn adnabyddus fel un oedd yn ciniawa a mynychu part´on.

Cenedlaetholdeb

Roedd ganddo dŷ yn Aber-big, Blaenau Gwent.

Yn gefnogwr brwd i blaid UKIP fe safodd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007.

Ond yn 2003 dywedodd ei fod yn gadael Cymru gan roi'r bai ar "genedlaetholdeb cul".

Dywedodd na fyddai byth yn dychwelyd gan ddweud fod yna rhai wedi dwyn o dai oedd yn eiddo iddo yn Llanhiledd ger Abertyleri.

Roedd hefyd yn honni fod rhywun wedi difrodi'r chwe thŷ oedd yn hen gartrefi glowyr.

Dywedodd ei fod hefyd yn anhapus fod disgyblion yn cael eu gorfodi drwy "dactegau bwlian" i ddysgu Cymraeg.

Ar y pryd dywedodd pentrefwyr Aber-big a Llanhiledd nad oedden nhw'n drist o'i weld yn mynd a hynny am ei fod yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ei gartref arall yn Mayfair, Llundain.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Jonathan Morgan y bydd yna "golled fawr ar ei ˘l".

"Er ein bod yn elynion gwleidyddol yn sedd Gogledd Caerdydd, na i fyth anghofio'r hiwmor, ysbryd ac egni roddodd i'r ymgyrch etholiadol.

"Roedd yn byw bywyd i'r eithaf."

Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific