|
Mae Charlotte yn un o gefnogwyr Ysbyty Plant Cymru
|
Cafodd enw mab newydd y gantores a'r cyflwynydd Charlotte Church ei gyhoeddi.
Ganwyd Dexter Lloyd Henson ddydd Sul.
Dyma ail blentyn y gantores a'r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gavin Henson.
Ganwyd merch y cwpl, Ruby Megan, ym mis Medi 2007.
Mewn datganiad, dywedodd y cwpl: "Mae Charlotte Church a Gavin Henson yn falch o gyhoeddi genedigaeth eu hail blentyn.
"Mae'r cwpl yn falch iawn, felly hefyd eu teuluoedd," ychwanegodd y datganiad ymddangosodd ar wefan Charlotte ddydd Sul.
Priodi
Cafodd Dexter ei eni yng nghartref y cwpl ym Mro Morgannwg.
Dydd Llun daeth cadarnhad o'r enw.
"Mewn traddodiad a theulu'r Henson, mae Dexter yn cael yr enw canol Lloyd," meddai llefarydd ar ran Charlotte.
Roedd Dexter yn pwyso 7 pwys 5 owns pan gafodd ei eni.
Mae'r gantores 22 oed newydd gyflwyno trydedd gyfres o'i sioe ar Channel 4, The Charlotte Church Show.
Mae hi a Gavin Henson wedi bod gyda'i gilydd ers pedair blynedd er eu bod yn dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau "i briodi yn fuan".
Mae Charlotte, sy'n byw yn Saint-y-brid, Bro Morgannwg, wedi bod yn annog ymgyrch bwydo o'r fron ers genedigaeth Ruby Megan.
Mae hi hefyd yn un o gefnogwyr Ysbyty Plant Cymru, Caerdydd, a dywedodd bod y profiad o fod yn fam wedi ei gwneud yn fwy penderfynol i godi arian tuag at yr ysbyty.
|