British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Ionawr 2009, 14:15 GMT
Tywysog: Hyfforddi yng Nghymru

Y Tywysog William
Bydd y Tywysog William yn wynebu her yn y Llu Awyr
Mae swyddogion y Llu Awyr fydd yn hyfforddi'r Tywysog William wedi dweud na fydd yn cael ei drin yn wahanol i unrhyw beilot arall yng Nghanolfan y Fali.

Fe fydd rhan o'r cwrs, sy'n costio 800,000, ar Ynys Mn yn ogystal Sir Amwythig.

Dywedodd pennaeth y sgwadron, Nick Pollard: "Fe fydd e'n cael ei drin fel unrhyw fyfyriwr arall, ac fe fydd disgwyl iddo wneud yr un tasgau ac ymddwyn yr un ffordd."

Fe fydd y tywysog yn dechrau ei hyfforddi ar safle Shawbury, yn hedfan awyren Squirrel, yr awyren gyntaf y mae peilot dan hyffroddiant yn ei hedfan.

Os yw swyddogion yn penderfynu bod ei safon yn ddigon da, fe fydd yn symud i'r Fali i hedfan awyren Griffin fel rhan o Uned Hyfforddi Chwilio ac Achub.

Mae'r tywysog yn gobeithio dechrau gwasanaethu yn y Llu Awyr yn swyddogol ar ddechrau 2011.

'Methu'r cwrs'

Dywedodd Andy Lovell, prif hyfforddwr hedfan Ysgol Hedfan Shawbury y byddai'r cwrs yn profi gwir gallu hedfan y tywysog

"Drwy gydol y cyfnod hyfforddi fe fydd profion cyson ar y tir ac yn yr awyr y bydd yn rhaid iddo eu pasio, fel ein myfyrwyr ni i gyd.

"Os nad yw'n cyrraedd ein safon ni, mae'n bosib y gallai fethu," meddai.

Dywedodd Peter Lloyd, pennaeth yr Uned Chwilio ac Achub, mai ychydig o'r gwaith fyddai'n helpu criwiau milwrol a suful.

"Mae hynny'n golygu bod 98% o'n hamser ar gyfer achub unrhyw un arall ym Mhrydain."

'Agwedd'

Dywedodd pennaeth safle Llu Awyr Shawbury, y Capten David Prowse: "Mae'n rhaid bod yr agwedd yn gywir, eich bod chi eisiau dysgu.

"Rhaid eich bod chi eisiau'r yrfa gan nad ydyn ni ond yn gwneud swydd filwrol ... mae'n ffordd o fyw ..."

Dysgodd y tywysog hedfan gyda'r Llu Awyr yn 2008 ar l treulio cyfnod yn y Fyddin a'r Llynges.

HEFYD
Tywysog ar gwrs arbennig
15 Medi 08 |  Newyddion
Amddiffyn taith y tywysog adre
09 Rhag 05 |  Newyddion
Cyfle i ddathlu cyfraniad Y Fali
27 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific