|
Priododd Portia a Mervyn Humphreys ddyddiau'n unig cyn y ddamwain.
|
Mae dyn gafodd ei anafu'n ddrwg yn Swaziland mewn damwain car yn gobeithio ymweld â bedd ei fab a fu farw yn yr un ddamwain.
Bu Mervyn Hughes o Gaersws yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ers y ddamwain yn Awst 2007 ond mae o nawr wedi cael dod adre.
Priododd Mr Humphreys a'i wraig Portia yn ystod y trip i Swaziland yn ne Affrica, ddyddiau'n unig cyn i lori daro i mewn i'w car.
Cafodd Mr Humphreys, 38, o Gaersws, Powys, ei barlysu ar un ochr a chafodd ei fab chwe mis oed Cameron ei ladd.
Ers hynny mae wedi treulio misoedd yn gwella mewn nifer o ysbytai.
Treuliodd Mrs Humphreys, sy'n hanu o Swaziland, fisoedd yn teithio nôl a 'mlaen i Gaerdydd yn ymweld â'i gŵr yn ysbyty Rookwood y brifddinas.
Cafodd ei symud i ysbyty yn Y Drenewydd fis Tachwedd, lle cafodd fynd adre dros y penwythnosau.
 |
Mae angen iddo ddod i delerau â'r hyn ddigwyddodd iddo ac mae eisiau ymweld â bedd ei fab
|
Cafodd adael yr ysbyty yn gyfan gwbl ddydd Sadwrn a dywedodd Mrs Humphreys ei bod yn "gyffrous" ac yn teimlo "rhyddhad" o'i gael adref gyda hi.
"Mae wrth ei fodd adre," meddai.
"Mae angen iddo ddod i delerau â'r hyn ddigwyddodd iddo ac mae eisiau ymweld â bedd ei fab.
"Mae'r bedd mewn pentref tua 10 milltir i ffwrdd ac fe geisiais fynd â fe ond nid oeddem yn gallu mynd â'r gadair olwyn i fyny'r rhiw oherwydd ei bod yn bwrw glaw ac yn fwdlyd iawn.
"Ond fe wnawn roi cynnig arall arni."
Roedd Mrs Humphreys yn gyrru i barc saffari pan ddigwyddodd y ddamwain ar Awst 21 2007.
Bu'n rhaid i ddynion tân ryddhau Mr Humphreys tra aethpwyd â Mrs Humphreys a'i mab mewn hofrennydd i ysbyty yn Pretoria, De Affrica, lle dywedwyd wrthi fod Cameron wedi torri ei benglog.
Bu farw Cameron Humphreys wedi'r ddamwain fis Awst 2007
|
Mewn cwest i farwolaeth Cameron fis Tachwedd, cofnododd crwner Powys Peter Maddox ddyfarniad o farwolaeth ddamweiniol.
Torrwyd coes Mr Humphreys, ei bigwrn, gên, asennau, pelfis ac asgwrn yng nghefn ei wddw yn y ddamwain.
Treulio fisoedd mewn ysbytai yng Nghaerdydd, Aberystwyth a'r Drenewydd.
Mae wedi ei barlysu ar un ochr ac yn cael trafferth siarad.
Therapi lleferydd
Mae cartref y pâr wedi ei addasu ar gyfer defnydd cadair olwyn drydan, sydd eto i gyrraedd.
Bydd gofalydd yn ymweld â Mr Humphreys bedair gwaith y diwrnod tra fod ei wraig yn y gwaith a bydd rhaid iddo barhau i fynd i'r ysbyty ar gyfer ffisiotherapi a therapi lleferydd.
Ond dywedodd Mrs Humphreys eu bod yn benderfynol o symud ymlaen.
"Roedd yr hyn ddigwyddodd yn sioc ac yn drawmatig," meddai.
"Dwi wedi dod i delerau â'r hyn ddigwyddodd oherwydd dwi'n Gristion ac mae'r pethau yma'n digwydd. Mae'n rhaid i mi helpu Merv.
"Mae'n benderfynol o gerdded eto. Dwi wedi bod yn berson positif erioed ac rydym wedi cael gymaint o gefnogaeth gan y gymuned, sydd wedi codi arian ar ein cyfer."
|