British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Ionawr 2009, 10:09 GMT
Eluned Phillips yn marw yn 94 oed

Eluned Phillips
Cyhoeddwyd casgliad o'i cherddi yn 1985

Bu farw'r bardd Eluned Phillips yn 94 oed.

Eluned Phillips yw'r unig fenyw i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983 gyda phryddest am Ryfel y Malvinas/Falklands yn gefndir iddi.

Dywedodd yr Archdderwydd Dic Jones ddydd Sul mai hi "oedd, mae'n debyg, aelod hynaf yr Orsedd ac, yn sicr, yr un mwyaf ffyddlon".

Mae'n debyg, meddai, iddi fod yn aelod ers y 1930au.

'Cymeriad'

"Roedd hi'n gymeriad. Mae ei hunangofiant, The Relectant Redhead, yn ddiddorol iawn.

"Roedd ganddi'r ddawn o fod yn ddirgelaidd a chroesawgar yr un pryd."

Fe'i ganed hi yng Nghenarth a'i magu yn bennaf gan ei mam-gu.

Ni wnaeth erioed adnabod ei thad gan iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr o fewn wythnosau i'w geni.

'Pawb yn gyfartal'

Dywedodd fod ei mam-gu yn ystyried pawb yn gyfartal beth bynnag oedd eu gradd gymdeithasol, agwedd y gwnaeth hi ei hetifeddu, meddai.

Aeth i goleg yn Llundain ond ni pharhaodd gyda'i hastudiaethau.

Trwy gysylltiad brawd ffrind aeth i fyw a newyddiadura ym Mharis lle daeth i gysylltiad â Maurice Chevalier, Pablo Picasso ac Edith Piaf ymhlith eraill.

Yn ennill ei hail Goron yn Eisteddfod 1983
Yn ennill ei hail Goron yn Eisteddfod 1983

Yng Nghymru yr oedd yn gyfarwydd â Dylan Thomas ac Augustus John a daeth yr arlunydd yn ffrind.

Roedd Dylan, meddai, yn anodd ei adnabod a chynnal sgwrs ag ef.

Yr oedd yn gyfeillgar â'r bardd o Gymro, Dewi Emrys, a hi a gyhoeddodd gofiant iddo yn 1971.

Dywedodd iddi fod "yn lwcus drwy fy mywyd" i gyfarfod â phobl ddiddorol.

Anfonodd bryddest am Piaff i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod 1967 ond pryddest arall anfonodd i'r un gystadleuaeth enillodd y wobr.

Oni bai bod un o'r beirniaid yn offeiriad, meddai, fe fyddai'r bryddest am Piaf wedi ennill, ffefryn y beirniad arall, Alun Llewelyn-Williams.

Mae'n cael ei chofio'n bennaf am ei champ o fod yn un o ychydig o fenywod i fod yn brifeirdd.

Hi oedd yr ail i ennill y Goron yn y Genedlaethol ar ôl Dilys Cadwaladr enillodd yn 1953.

Erbyn hyn, mae Mererid Hopwood wedi ennill y Gadair a'r Goron ac mae Einir Jones wedi ennill y Goron yn 1991 a Christine James yn 2005.

Cyhoeddwyd casgliad o gerddi Eluned, Cerddi Glyn-y-Mêl, yn 1985.

'Colled fawr'

Dywedodd un o'i ffrindiau Andrew Gilbert, a oedd yn ei chwmni pan fu farw: "Bydd colled fawr ar ôl Eluned. Roedd hi'n fenyw hyfryd, hyfryd.

"Roedd hi fel mam i mi a'm cymar Bernadette.

"Ac roedd yn fraint i'w hadnabod."

Bu farw yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ddydd Sadwrn.

• Daeth y sylw yma i mewn i'r wefan.

Cawsom yr anrhydedd a phleser o deithio o gwmpas Y Wladfa gydag Eluned a bûm yn ffrindiau ers hynny. Fe welwn ei heisiau yn fawr ond fe wnewn wastad cofio'i hwyl a'i difyrrwch. Gorffwys mewn hedd, Eluned. Maldwyn ac Ann Owen, Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific