British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Ionawr 2009, 12:32 GMT
Marwolaeth llanc: Dyn yn y ddalfa

Jamie Yeates
Roedd Jamie Yeates am fod yn joci llwyddiannus

Mae Heddlu Dyfed Powys yn holi dyn mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen 15 oed yn Llanelli.

Bu farw Jamie Yeates yn y dref yn oriau mân bore Iau.

Dangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi cael ei drywanu sawl gwaith.

Mae merch yn ei harddegau wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Dywedodd Geraint Roberts o Ysgol Gyfun Y Strade, lle oedd Jamie'n ddisgybl, mai ei chwaer, Kimberly, 18 oed, gafodd ei hanafu.

Dyw ei bywyd hi ddim mewn perygl, meddai'r heddlu gafodd eu galw i Stryd Grant am 2.55am ddydd Iau.

'Bachgen cwrtais'

"Mae'r heddlu am sicrhau'r bobl leol nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r hyn ddigwyddodd ...," meddai'r llefarydd.

Fe gododd swyddogion fforensig ddwy babell arbennig, un yng nghanol y stryd ac un y tu allan i un o'r tai.

Dywedodd un o'r trigolion lleol nad oedden nhw'n gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd.

Ty yn Stryd Grant, Llanelli
Cafodd profion eu gwneud yn y tŷ

"Dyw'r heddlu ddim yn dweud llawer," meddai'r person nad oedd am gael ei enwi.

"Roedden y teulu'n dawel ac roedd Jamie yn fachgen cwrtais."

Ym mlwyddyn 11 yr oedd Jamie oedd yn dymuno bod yn joci.

Dywedodd Mr Roberts o'r ysgol fod Jamie yn fachgen "hapus oedd bob tro yn bihafio".

"Roedd yn edrych ymlaen at gael bod yn joci llwyddiannus," meddai.

"Cafodd brofiad gwaith drwy'r ysgol mewn stablau yng Nghaerfyrddin ac roedd wrth ei fodd.

"Roedd hyd yn oed wedi trefnu prentisiaeth i fod yn joci, rhywbeth prin iawn."

Dywedodd fod gwasanaeth cwnsela ar gael i ddisgyblion a staff yr ysgol.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu yn Llanelli ar 0845 330 2000 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific