British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009, 13:32 GMT
999: Methu'r targed unwaith eto

Ambiwlans (llun llyfrgell)
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi beirniadu perfformiad y gwasanaeth

Mae perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans wedi gwaethygu, yn ôl yr ystadegau diweddara.

Yn Nhachwedd 2008 fe gyrhaeddodd 57.1% o griwiau y targed o wyth munud ar gyfer galwadau brys - gostyngiad o 1.6% ar y mis blaenorol.

Ers Ebrill 2007 mae'r criwiau wedi bod yn anelu at darged o 65%.

Cyn diwedd y flwyddyn beirniadodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, berfformiad y gwasanaeth.

Mae perfformiad y gwasanaeth yn amrywio rhwng ardaloedd.

Yng Nghonwy fe lwyddodd 77.8% o griwiau i gyrraedd o fewn wyth munud tra yn Nhorfaen y cyfanswm oedd 38.8%.

Mae'r gwasanaeth wedi addo gwella ar ôl i adolygiad ym mis Mehefin ddweud bod ysbryd gweithwyr yn isel a bwlian yn digwydd yn aml.

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar iechyd, Peter Black AC, fod y perfformiad yn "achos gofid".

"Mae hyn yn 'y mhoeni, nad yw'r gwasanaeth ddim yn cyrraedd y targed o 65% o fewn wyth munud.

"A dweud y gwir, maen nhw'n pellhau oddi wrth y targed bob mis."



HEFYD
Ambiwlans: Croesawu ymchwiliad
21 Meh 06 |  Newyddion
Ambiwlans: Angen ail adolygiad
28 Tach 07 |  Newyddion
Ambiwlans: 'Dim diffyg staff'
24 Meh 06 |  Newyddion
Ambiwlans: O blaid ymchwiliad
20 Meh 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific