|
Dywed yr elusen fo angen rhagor o gymorth ar bobl ifanc di-waith
|
Mae ymchwil ar ran elusen Ymddiriedolaeth y Tywysog yn awgrymu bod angen rhagor o gymorth ar bobl ifainc di-waith i ymdopi â phroblemau iechyd meddwl.
Yn ôl gwaith ymchwil roedd 10% o'r bobl ifanc gafodd eu holi yn teimlo nad oedd gwerth i'w bywydau.
Roedd 25% o'r rhai a holwyd hefyd yn dweud eu bod yn diodde o iselder neu'n ddigalon.
Yn ôl yr arolwg, y di-waith a'r rhai sydd wedi gadael byd addysg sy'n diodde waethaf.
Cafodd 2,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed eu holi ar-lein ym Mhrydain.
Roedd y sampl yn cynnwys nifer o bobl ifanc o Gymru.
Ddim yn cysgu
Yn ôl Michael Mercieca, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog, mae'r arolwg yn awgrymu fod pobl ifanc yn teimlo'n fregus.
"Mae pobl ifanc yn dweud wrthym fod y teulu yn bwysig i'w hapusrwydd ond yn aml rydan ni'n darganfod nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth y maen nhw'n dymuno ei chael," meddai.
Roedd Billy-Joe Millward, 20 oed, o Benarth ger Caerdydd yn 14 oed pan wahanodd ei rhieni.
Yn yr ysgol cafodd ei bwlio a bu'n diodde o iselder pan fethodd â chael swydd ar ôl gadel yr ysgol.
"Doeddwn ni ddim yn cysgu yn y nos oherwydd fy mod yn diodde o iselder, ac yna byddwn yn cysgu yn ystod y dydd.
"Doeddwn i ddim yn bwyta. A byddwn yn aros yn fy ystafell am naw awr a gwneud dim.
"O'n i'n teimlo nad oedd yna ddim byd ar fy nghyfer - dim cymorth, dim byd."
Anhapus
Ond fe lwyddodd Ms Millward i newid ei sefyllfa ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen 12 wythnos gafodd ei threfnu gan Ymddiriedolaeth y Tywysog.
"Ond ar y pryd roeddwn yn diodde o ddiffyg hyder ac iselder.
"O'n i'n teimlo nad oeddwn yn ddigon da i gyflawni unrhyw beth."
Erbyn hyn mae ganddi swydd llawn amser ac mae hefyd yn gobeithio mynd i'r brifysgol i astudio seicoleg plant.
Dywed Peter Kellner o YouGov, y corff oedd yn gyfrifol am yr arolwg, fod angen mynd i'r afael â gofidion pobl ifanc.
"Mae gan y rhan fwyaf o bobl ifanc agwedd bositif tuag at fywyd ond mae'r arolwg yn dangos fod yna nifer sylweddol o bobl dan 25 oed sy'n byw bywyd anhapus."
|