British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Ionawr 2009, 09:44 GMT
Ysgol werdd i Ynys Môn

Ysgol newydd Ysgol Y Graig  Llangefni
Fe gafodd £3.5 miliwn ei wario

Mae mwy na 300 o blant yn dechrau eu gwersi mewn ysgol gynradd newydd ar Ynys Môn.

Fe wariodd Cyngor Ynys Môn £3.5 miliwn ar eu hysgol werdd gynta, Ysgol y Graig yn Llangefni, lle mae paneli solar a thyrbin gwynt.

Gall yr ysgol gynhyrchu hyd at 50% o'i thrydan ac mae trydan dros ben yn cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol.

"Mae'r cyfleusterau'n drawiadol," meddai'r prifathro, Glyn Roberts. "Heb eu hail, a deud y gwir."

Wynne Construction gododd yr ysgol, oedd yn arfer bod ar stad ddiwydiannol ger canol y dre, ar Lôn Talwrn.

Carbon deuocsid

Dywedodd y cyngor sir fod y lleoliad newydd yn golygu mwy o ddiogelwch ar y ffyrdd a llawer llai o allyriadau carbon deuocsid.

Yn yr ysgol mae lampau ynni-effeithlon.

Dywedodd y prifathro: "Mi gafodd y plant gyfle i weld yr ysgol newydd cyn y gwyliau.

"Ond mae heddiw'n ddiwrnod arbennig ac maen nhw wedi bod yn edrych ymlaen ers misoedd.

"Yn ogystal â bod yn ysgol drawiadol mae digon o ddeunydd yma ar gyfer prosiect gwyddonol diddorol."

Mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Phil Fowlie, wedi dweud: "Cynllun uchelgeisiol yw hwn a hon yw'r ysgol newydd gynta ar yr ynys ers 2002.

"Yn sicr, mae'r ysgol ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd ..."



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific