British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 4 Ionawr 2009, 10:22 GMT
Milwyr Israel ar Lain Gaza

Protest Gaza
Roedd 40 yn picedu archfarchnad Morrisons yng Nghaernarfon

Mae brwydro ffyrnig wedi bod ar Lain Gaza wedi i Israel anfon tanciau a milwyr i mewn i'r ardal nos Sadwrn.

Ar un adeg roedd adroddiadau bod 30 o Balestiniaid wedi eu lladd a nifer o filwyr Israel wedi eu hanafu.

Roedd ymladd yn Ninas Gaza, tre ogleddol Beit Lahiya a gwersyll ffoaduriaid Jabaliya.

Ac roedd adroddiadau bod milwyr Israel wedi amgylchynu Dinas Gaza.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-moon wedi galw am ddiwedd ar yr ymladd.

Ond nid oedd cyfarfod brys y Cyngor Diogelwch yn gallu cytuno beth fyddai'r ymateb gorau ar hyn o bryd.

Cadoediad

Er bod nifer o arweinwyr y byd wedi galw am gadoediad ar unwaith, mae'r Unol Daleithiau wedi cefnogi Israel.

Dydd Sadwrn roedd 18 o brotestiadau, gan gynnwys rhai yng Nghymru, yn erbyn cyrchoedd awyr Israel yn Gaza yn y Dwyrain Canol.

Yng Nghymru roedd protestiadau ym Mangor, Caernarfon ac Abertawe.

Hyd yn hyn mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfri bod 2,000 o Balestiniaid wedi cael eu hanafu ers i'r cyrchoedd ddechrau ddydd Sadwrn diwetha.

Mae mwy na 500 wedi cael eu lladd.

Cyn i filwyr Israel symud i mewn i Lain Gaza roedd pedwar Israeliad, gan gynnwys un milwr, wedi eu lladd wedi i rocedi gael eu tanio o gyfeiriad Gaza.

Ym Mangor ddydd Sadwrn roedd 100 o Foslemiaid o ogledd Cymru'n gorymdeithio, yn gadael y mosg am 12.30pm cyn cerdded i dŵr y cloc yng nghanol y ddinas.

'Trychineb'

Dywedodd Linda Rogers o Ymgyrch Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Mn: "Yn Gaza mae 'na drychineb ddyngarol.

"Mae'r blocd yn golygu nad oes gan bobl gyflenwadau meddygol na'r adnoddau i ailgodi eu tai.

"All yr ysbytai ddim ymdopi nifer yr anafiadau."

Dywedodd eu bod yn galw am gadoediad llwyr a chymorth ar frys i bobl Gaza.

Yng Nghaernarfon roedd 40 aelod o Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Arfon yn picedu archfarchnad Morrisons Sadwrn rhwng 11am ac 1pm.

Dywedodd Ben Gregory o'r mudiad fod ymateb siopwyr yn "ffafriol iawn" a "thri chwarter yn erbyn prynu ffrwythau o Israel".

Gaza
Cenhedloedd Unedig: 2,000 o Balestiniaid wedi cael eu hanafu
"... mae'r mudiad yn ymuno phrotestwyr drwy Brydain i alw ar lywodraeth Gordon Brown i gondemnio ymosodiad Israel ..."

Areithiodd Dafydd Iwan, llywydd Plaid Cymru, a Hywel Williams, yr Aelod Seneddol lleol, a phwysleisodd y ddau yr angen am drafodaethau heddwch.

Yn Abertawe roedd 200 mewn rali yn Sgwr y Castell am 1pm lle cafodd cannoedd o ganhwyllau eu cynnau i goffu y rhai gafodd eu lladd.

"Fydd y lladd ddim yn arwain at heddwch ar gyfer pobol gyffredin Israel," meddai un o'r trefnwyr, Helen Griffin. "Fe fydd yn arwain at fwy o hunanfomio ..."

Mae Llywodraeth Israel wedi honni eu bod yn amddiffyn eu dinasyddion rhag "cyrchoedd roced y Palestiniaid".

Dywedodd llywodraeth y wlad honno fod cyrchoedd awyr am fod rocedi wedi cael eu tanio at rannau deheuol a "difetha cadoediad oedd wedi para am chwe mis".

Roedd mwy na 30 o fudiadau wedi trefnu'r protestiadau, gan gynnwys un fawr yn Llundain.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific