Roedd 40 yn picedu archfarchnad Morrisons yng Nghaernarfon
|
Mae 18 o brotestiadau, gan gynnwys rhai yng Nghymru, wedi cael eu cynnal ym Mhrydain yn erbyn cyrchoedd awyr Israel yn Gaza yn y Dwyrain Canol.
Yng Nghymru roedd protestiadau ym Mangor, Caernarfon ac Abertawe.
Hyd yn hyn mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfri bod 2,000 o Balestiniaid wedi cael eu hanafu ers i'r cyrchoedd ddechrau ddydd Sadwrn diwetha.
Mae mwy na 400 wedi cael eu lladd, gan gynnwys 34 o blant.
Fe gafodd pedwar Israeliad eu lladd, gan gynnwys un milwr, wedi i rocedi gael eu tanio o gyfeiriad Gaza.
Ym Mangor roedd 100 o Foslemiaid o ogledd Cymru'n gorymdeithio, yn gadael y mosg am 12.30pm cyn cerdded i dŵr y cloc yng nghanol y ddinas.
'Trychineb'
Dywedodd Linda Rogers o Ymgyrch Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn: "Yn Gaza mae 'na drychineb ddyngarol.
"Mae'r blocâd yn golygu nad oes gan bobl gyflenwadau meddygol na'r adnoddau i ailgodi eu tai.
"All yr ysbytai ddim ymdopi â nifer yr anafiadau."
Dywedodd eu bod yn galw am gadoediad llwyr a chymorth ar frys i bobl Gaza.
Yng Nghaernarfon roedd 40 aelod o Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Arfon yn picedu archfarchnad Morrisons Sadwrn rhwng 11am ac 1pm.
Dywedodd Ben Gregory o'r mudiad fod ymateb siopwyr yn "ffafriol iawn" a "thri chwarter yn erbyn prynu ffrwythau o Israel".
Cenhedloedd Unedig: 2,000 o Balestiniaid wedi cael eu hanafu
|
"... mae'r mudiad yn ymuno â phrotestwyr drwy Brydain i alw ar lywodraeth Gordon Brown i gondemnio ymosodiad Israel ..."
Areithiodd Dafydd Iwan, llywydd Plaid Cymru, a Hywel Williams, yr Aelod Seneddol lleol, a phwysleisodd y ddau yr angen am drafodaethau heddwch.
Yn Abertawe roedd 200 mewn rali yn Sgwâr y Castell am 1pm lle cafodd cannoedd o ganhwyllau eu cynnau i goffáu y rhai gafodd eu lladd.
"Fydd y lladd ddim yn arwain at heddwch ar gyfer pobol gyffredin Israel," meddai un o'r trefnwyr, Helen Griffin. "Fe fydd yn arwain at fwy o hunanfomio ..."
Mae Llywodraeth Israel wedi honni eu bod yn amddiffyn eu dinasyddion rhag "cyrchoedd roced y Palestiniaid".
'Nid amddiffyn'
Dywedodd llywodraeth y wlad honno fod eu milwyr wedi ymosod wedi i rocedi gael eu tanio at rannau deheuol a "difetha cadoediad oedd wedi para am chwe mis".
Ond dywedodd Lyndsey German o'r Glymblaid yn erbyn Rhyfel: "Nid amddiffyn mo hwn.
"Ymosod yw hwn, Israel yn ymosod ar hanner miliwn o bobol sy eisoes mewn tlodi mawr."
Mae mwy na 30 o fudiadau wedi trefnu'r protestiadau, gan gynnwys un fawr yn Llundain.
Yn y cyfamser, dywedodd cadeirydd y Mudiad Llafur Iddewig, Louise Ellman AS,: "Mae'r diodde yn Gaza yn peri loes fawr ...
"Ond mudiad Hamas sy'n gyfrifol am hyn, mudiad nad yw'n cydnabod bod Israel yn bod."
|