British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 3 Ionawr 2009, 11:53 GMT
Post: Gwasanaethau symudol

Arwydd Swyddfa'r Post
Fe fydd 2,500 o swyddfeydd yn cau yng ngwledydd Prydain

Mae'r Swyddfa Bost wedi dweud y bydd yn cyflwyno rhai gwasanaethau symudol yn y gorllewin wrth i swyddfeydd post cau.

Fe fydd isbostfeistri canghennau Llandeilo, Abergwaun, Penfro a Chilgeti yn gyrru cerbydau fydd yn gwasanaethu'r ardaloedd cyfagos.

Mae'r cwmni wedi dweud bod hon yn rhan o gynllun ehangach i gau 2,500 o ganghennau yng ngwledydd Prydain a chreu gwasanaethau cymunedol.

Dywedodd Rhianydd Thomas, rheolwraig datblygu busnes y gorllewin: "Mae'r isbostfeistri hyn yn brofiadaol ac yn awyddus i wasanaethu'r gymuned.

"Fe fydd holl wasanaethau is-swyddfa bost felly ar gael i bobol mewn pentrefi cyfagos.

"O'r diwedd fe fydd pentrefi fel Nantgaredig a Llanisan-yn-Rhos yn cael gwasanaeth haeddiannol ... o'r blaen roedd yn anodd recriwtio isbostfeistri."

Yn Rhagfyr penderfynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin ollwng cais am adolygiad barnwrol o gynlluniau i gau 24 o swyddfeydd post ar ôl taro bargen am rai gwasanaethau yn eu lle.

Roedd y Swyddfa Bost wedi dweud y byddai trefniadau partneriaeth ar gyfer Llanboidy ger yr Hendy-gwyn a'u bod yn cynnig trefniant tebyg ar gyfer Dryslwyn.

£4.5 miliwn

Yn Rhagfyr dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai cronfa o £4.5 miliwn ar gael o Ionawr 1 ymlaen i helpu is-bostfeistri allgyfeirio a gwella swyddfeydd post.

Bydd y gronfa ar gael i bob is-swyddfa bost yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd, ar gyfer cyngor busnes a marchnata, hysbysebu, hyfforddi a rhai o gostau efydlu gwasanaethau newydd.

Gall is-bostfeistri wneud cais am hyd at £20,000 o gyllid cyfalaf a hyd at £15,000 o gostau refeniw.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Post: Cau 44 o ganghennau
05 Awst 08 |  Newyddion
Post: Cau 11 swyddfa lleol
10 Meh 08 |  Newyddion
Pryder symud swyddfa bost
26 Ebr 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific