Nod: 'Denu cynulleidfa na fyddai Dafydd ap Gwilym byth wedi eu dychmygu'
|
Mae prosiect yn ceisio ail-greu'r perfformiad pan oedd bardd yn mynd i lys uchelwr yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Fe fydd yr arbrawf yn cymharu traddodiadau barddol Yr Alban ac Iwerddon.
Y nod yw cyfuno gwybodaeth a sgiliau arbenigwyr mewn cerddoriaeth gynnar, ysgolheigion llenyddol, cerddorion traddodiadol, beirdd a chyfansoddwyr o Gymru, Yr Alban, ac Iwerddon.
Bydd yr Athro Dafydd Johnston o Ganolfan Geltaidd Prifysgol Cymru a Dr Sally Harper, arbenigwraig mewn cerddoriaeth Gymraeg gynnar yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, yn arwain tîm fydd yn arbrofi gyda dulliau o berfformio'r gwaith.
'Archeoleg gerddorol'
Dywedodd Dr Harper: "Byddwn yn defnyddio tystiolaeth o lawysgrifau cerddorol a llenyddol ac yn defnyddio'r farddoniaeth ei hun.
"Mae yna gyfeiriadau at y ffaith bod rhai beirdd yn cyfeilio iddyn nhw eu hunain gyda'r delyn neu'r crwth...
"Ar adegau eraill roedd 'cantorion' wedi'u hyfforddi i safon uchel yn perfformio'r gwaith i gyfeiliant offerynwyr barddol.
Yr Athro Dafydd Johnston yw un o arweinwyr y prosiect
|
"Dim ond i ryw raddau y gall 'archeoleg gerddorol' gyfleu'r gorffennol i ni."
Yr uchafbwynt fydd cyfres o berfformiadau arbrofol.
Bydd dau weithdy, un ym Mangor ac un yng Nghaeredin yn ystod Ebrill a Mai 2009, yn dod â'r ysgolheigion, beirdd, perfformwyr a cherddorion o'r tair gwlad at ei gilydd.
Ar ddiwedd y gweithdai fe fydd perfformiadau gaiff eu ffilmio cyn cael eu gosod ar wefan.
'Perthnasol'
Fe fydd elfen fwy cyfoes yn y prosiect, y cyfansoddwr Dr Pwyll ap Siôn o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn gweithio gyda bardd cadeiriol yr Eisteddfod Genedlaethol, Eirug Salibsury o Ganolfan Geltaidd Prifysgol Cymru, i greu tri darn wedi'u seilio ar hen fesurau y beirdd canoloesol.
"Gall y math hwn o broject ddod â phwnc ysgolheigaidd yn fyw a'i wneud yn berthnasol i ni heddiw," meddai Dr Johnston, a benodwyd yn gyfarwyddwr y Ganolfan ym mis Hydref 2008.
"... mae'n rhoi bywyd a chreadigrwydd newydd i'r farddoniaeth - yn ogystal â chynulleidfa na fyddai Dafydd ap Gwilym byth wedi eu dychmygu."
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrydain sy'n ariannu'r prosiect.
|