Bu tua 1000 yn cystadlu yn y ras
|
Cafwyd y nifer fwya o gystadleuwyr erioed yn ras Nos Galan sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed.
Roedd dros 1,000 o athletwyr a rhedwyr cyffredin yn y ras pum cilomedr yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.
Yr athletwr Linford Christie ddechreuodd y ras.
Cafodd y ras ei hatgyfodi i goffáu camp y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân.
Fe wnaeth Linford Christie redeg â ffagl o fedd Guto yn Eglwys Llanwynno i ganol tref Aberpennar er mwyn dechrau'r ras.
Jorge Thomas o Glwb Athletau Caerdydd a groesodd y llinell yn gyntaf, a hynny wedi 14 munud 59 eiliad.
Eleni fe wnaeth y cyngor sir sefydlu clybiau rhedeg fel y gallai pobl leol ymarfer cyn y ras.
|