|
Llosgwyd Sycharth yn ulw yn 1403
|
Fe fydd £2 filiwn yn cael ei wario ar 10 safle sy'n gysylltiedig â threftadaeth Cymru fel y gall brodorion ac ymwelwyr eu cyrraedd yn haws a dysgu mwy amdanyn nhw.
Ymhlith y 10 mae tri safle sy'n gysylltiedig â gwrthryfel Glyndŵr.
Cyhoeddwyd yr arian ar ddechrau dathliadau pen-blwydd Cadw - y corff sy'n gwarchod llefydd o bwysigrwydd hanesyddol - yn 25 oed.
Daw'r arian o Lywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, fod y llefydd yn "allweddol i hanes Cymru ac yn rhan annatod o'n cenedligrwydd, ein hiaith a'n diwylliant ni fel Cymry."
Yn y cyfamser, mae trafodaethau yn parhau â pherchnogion preifat nifer o safleoedd eraill ynglŷn â'r angen i'w diogelu.
Ond cafwyd cadarnhad y bydd gwaith yn dechrau yn y safleoedd canlynol:
Glyndyfrdwy (Tomen Owain Glyndŵr). Yn y fan hon y cododd Glyndŵr faner gwrthryfel ar Fedi 16, 1400, a datgan ei fod yn Dywysog Cymru.
Sycharth (Maenor Owain Glyndŵr). Sycharth oedd cartref Owain Glyndŵr ar adeg ei wrthryfel.
Cefn Caer, Pennal - tŷ hanesyddol sy'n gysylltiedig â Llythyrau Pennal Glyndŵr.
Castell Nanhyfer - tomen Normanaidd ar ben cloddwaith oedd yn diogelu llys Cuhelyn, y tywysog Cymreig o'r 12fed ganrif.
Castell Deganwy - safle pwysig yn hanes gwrthsafiad y Cymry.
Buddsoddi: Tri safle sy'n gysylltiedig â Glyndŵr
|
Ystrad Fflur - safle diwylliannol a man claddu Dafydd ap Gwilym.
Abaty Cwmhir - Mae 'na draddodiad hir mai dyma fan claddu corff Llywelyn ap Gruffydd yn 1282.
Abergwyngregyn - Llys Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf.
Dywedodd y gweinidog fod gan Cadw rôl hanfodol wrth adrodd hanes y genedl.
"Ni fydd ein hanes ni bob amser yn bleserus ...
"Rhaid i ni gofio na chafodd ein cestyll eu cynllunio na'u hadeiladu i fod yn atyniad i dwristiaid - mae ganddyn nhw eu priod hanes, a dylen ni fod yn gyfarwydd â'r hanes ac ymfalchïo ynddo."
|