British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 27 Rhagfyr 2008, 15:32 GMT
Ymchwiliad: Slyri yn llifo i afon

Mae'r heddlu ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio ar ôl i wastraff slyri gael ei ryddhau o danc a llifo mewn i afon Cothi yn sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd fe lifodd miloedd o alwyni i'r afon.

Ni ddaeth swyddogion o hyd i unrhyw bysgod oedd wedi marw.

Cafodd yr Asiantaeth wybod am y digwyddiad ddydd Gwener ac maen nhw'n parhau i ymchwilio.

Daeth y slyri o fferm yn ardal Cwm Cothi.

Fe aeth ar draws y tir, llifo i nant ac yna i afon Cothi.

Yn ôl yr heddlu cafodd y slyri ei ryddhau rhywbryd rhwng Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific