|
Fe fydd tomen Cilgwyn yn cau ar Ragfyr 31 2008
|
Does neb eisiau gweld tomen sbwriel ger eu cartref ond rhaid i 75,000 tunnell o wastraff yng Ngwynedd fynd i rywle bob blwyddyn.
Ers 34 blynedd mae'r sbwriel wedi ei ollwng yn nhomen Cilgwyn uwchben Dyffryn Nantlle. Ond wedi hanes dadleuol mae'r safle yn cau ar ddiwrnod olaf 2008.
Mae pobl leol wedi cwyno am y drewdod, y pryfed a'r sŵn.
Tair blynedd yn ôl cafodd grŵp ei sefydlu a drefnodd gyfarfodydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.
Beirniadu
"Y nod ydi bod yn gwbl agored," meddai Medwyn Williams, uwchreolwr uned darparu gwastraff Cyngor Gwynedd.
Mae Robert Edwards wedi gweithio ar y safle am 23 blynedd
|
Oherwydd rheolau fyddai'r cyngor na neb arall yn gallu agor tomen yn y lle hwn. Ond digon hawdd ydi beirniadu penderfyniad gafodd ei wneud yn 1974.
Ar y pryd roedd tyllau chwarel Faengoch a Gloddfa Glytiau yn cael eu hystyried yn addas.
Un sydd wedi gweithio ar y domen am 23 blynedd ydi Robert Edwards ddywedodd fod y gwastraff yn fwy llychlyd ar y dechrau gan fod nifer yn rhoi eu gwastraff tân yn y biniau.
Bag o arian
Erbyn hyn mae'r cyfan yn cyrraedd mewn bagiau plastig.
Dywedodd fod pethau annisgwyl wedi cyrraedd y domen, gan gynnwys bag o arian oedd wedi ei roi mewn bin mewn camgymeriad.
Dywedodd rheolwr y safle, Steven Edwards, eu bod yn ceisio helpu'r cyhoedd.
"Os ydi'r lori yn dal ar y ffordd, fe fyddwn ni'n ceisio edrych ar y cynnwys y diwrnod hwnnw.
"Os ydi rhywun yn ffonio yn dweud eu bod wedi colli rhywbeth wythnos ddiwethaf yna does 'na ddim gobaith."
Mae'r domen wedi denu gwylanod gan fod cyfle iddyn nhw gael bwyd.
Dawn yr hebog
Geraint Williams sy'n rhwystro'r gwylanod rhag hedfan i lawr wrth ddefnyddio adar ysglyfaethus.
Dawn yr hebog sy'n gwarchod y safle
|
"Dwi ar y safle bob dydd rhwng 8.30am a 4.30pm," meddai. "Dwi'n mwynhau bod allan gyda'r adar."
Mae Dawn yr hebog, meddai, yn hedfan deirgwaith y dydd i ddychryn y gwylanod.
Yn y cyfamser, mae nwy methan o'r domen 80 metr o ddyfnder yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan.
Un megawat o bŵer sy'n cael ei gynhyrchu bob awr ac yn cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol, digon o drydan i bentref lle mae 1,500 o bobl.
60 mlynedd
Dydi cau tomen fel Cilgwyn ddim yn dasg hawdd.
Fe fydd rhaid i'r cyngor reoli'r safle am y 60 mlynedd nesaf, rheoli lefelau nwy a dŵr o'r safle yn ogystal â'r sbwriel sy'n pydru.
Bydd deunydd arbennig yn gorchuddio'r safle er mwyn dal dŵr ac wedyn fe fydd llechi'n cael eu defnyddio er mwyn bod yn debyg i'r tomenni yn y cyffiniau.
Ond wrth i'r domen gau ar Ragfyr 31 ble bydd sbwriel newydd yn mynd?
Fe fydd y gwastraff ar gyfer ei ailgylchu yn mynd i Gaergylchu ar stad ddiwydiannol yng Nghaernarfon neu safle arall yng Ngarndolbenmaen.
Fe fydd yr holl wastraff arall - yr hyn fydd yn cael ei gasglu gan y lorïau bin - yn mynd i safle Llwyn Isaf yng Nghlynnog Fawr sydd newydd ailagor.
Roedd pobl leol yn gobeithio na fyddai'n ailagor ond fe fydd yn derbyn gwastraff am bump neu saith mlynedd.
|