British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008, 16:32 GMT
Celwydd ar lw: Carcharu tri

Lynette White
Cafodd Lynette White, 20, ei llofruddio ar Chwefror 14, 1988

Mae tri pherson wedi eu carcharu am 18 mis yr un am ddweud celwydd ar lw yn achos gwreiddiol llofruddiaeth Lynette White.

Roedd Mark Grommek, 50 oed, Leanne Vilday, 40 oed, ac Angela Psaila, 43 oed, wedi pledio yn euog i ddweud celwydd yn yr achos dros 20 mlynedd yn l.

"Mae hyn yn un o'r achosion gwaetha o ddweud celwydd ar lw sydd wedi dod gerbron y llys," meddai'r barnwr wrth eu carcharu.

Yn 2003 cafodd Jeffrey Gafoor ei ddedfrydu i garchar am oes am ladd Ms White, 20 oed, yn ei fflat yn ardal Trebiwt ar ddydd Sant Ffolant yn 1988.

Cyfaddefodd Gafoor, o Lanharan, ger Pen-y-bont ar Ogwr, iddo drywanu Ms White 50 o weithiau yn ei fflat.

Jeffrey Gafoor
Cyfaddefodd Jeffrey Gafoor iddo drywanu Lynette White 50 o weithiau
Cafodd Gafoor ei arestio ar l datblygiad ym maes tystiolaeth DNA.

Roedd tri dyn - Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris - wedi cael eu carcharu am y drosedd yn 1990

Wedi ymgyrch hir dyfarnodd y Llys Apl nad nhw oedd yn gyfrifol ac fe gafodd y tri eu rhyddhau yn 1992.

Pan gafodd Grommeck ei holi gyntaf gan yr heddlu ynglŷn llofruddiaeth Lynette White, dywedodd nad oedd yn gwybod dim byd.

Misoedd yn ddiweddarach, roedd ei stori wedi newid a'i dystiolaeth yn rhan bwysig o achos yr heddlu yn erbyn pump o ddiffynyddion.

Dechreuodd Heddlu De Cymru ymchwiliad o'r newydd yn 2003, dan oruchwyliaeth Comisiwn Cwynion yr Heddlu wedi euogfarn Gafoor i weld be aeth o'i le gyda'r ymchwiliad gwreiddiol.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific