|
Ysbrydoliaeth: Hen lun o Eileen Beasley gyda'i mab Elidyr a'i merch Delyth
|
Mae canolfan gymunedol wedi ei chodi mewn pentref bron 100 mlynedd ar ôl i'r syniad gael ei grybwyll.
Cafodd y ganolfan ar gost o £780,000 ei henwi ar ôl ymgyrchwyr iaith lleol.
Mae Neuadd Beasley yn Llangennech ger Llanelli yn cynnwys llyfrgell.
Gwrthododd Eileen Beasley a'i gŵr Trefor dalu treth cyngor yn 1952 am fod cais Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn uniaith Saesneg. Ar y pryd roedd hon yn un o ardaloedd mwya Cymraeg y wlad.
Bu'n rhaid iddyn nhw fynd o flaen llys ynadon ddwsin o weithiau a theirgwaith daeth bwmbeiliaid i'w cartre a mynd â pheth o'u heiddo i glirio'r ddyled.
Wyth mlynedd
Parodd yr achos am wyth mlynedd ond yn 1960 cafodd y ddau bapur treth dwyieithog.
Roedd eu hymgyrch yn ysbrydoliaeth i lawer.
Roedd Mrs Beasley yn y seremoni agor ac fe gafodd torch o flodau ei chyflwyno iddi.
Dyweodd yr hanesydd Hwel Teifi Edwards, sy'n byw yn y pentre, fod safiad y ddau yn allweddol ym mrwydr yr iaith.
"Mae'n anrhydedd i ni fod y neuadd yn dwy'n enw'r teulu," meddai.
Cafodd y syniad o godi neuadd bentref yn Llangennech ei grybwyll gynta ym mhapur newydd y Llanelli Mercury yn 1908.
Bu Cyngor Cymuned Llangennech a Chyngor Caerfyrdd yn cydweithio cyn codi'r adeilad.
Yn 1998 cafodd cronfa leol ei sefydlu i dalu am yr holl waith.
|