British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008, 07:17 GMT
Nadolig: Trydan am y tro cynta

Abergeirw
Polyn trydan ar ochr y ffordd drwy bentref Abergeirw

Mae pentre mynyddig yn cael ei gysylltu ā'r rhwydwaith trydan yn swyddogol ddydd Gwener.

Dywedodd y Grid Cenedlaethol mai trigolion y naw tŷ yn Abergeirw ger Trawsfynydd oedd y rhai olaf yn yr ardal rhwydwaith i gael trydan.

Cafodd y polyn olaf o'r 95 ei osod yn gynharach yn y mis sy'n golygu y bydd gan y pentref drydan dros y Nadolig am y tro cyntaf.

"Roedd 'na sawl her," meddai Gary Evans o gwmni ScottishPower Manweb.

"Mae'r gymuned leol a'r cyngor sir wedi gweithio'n galed iawn i gael yr arian ar gyfer y cysylltiad."

Fe fydd seremoni ddydd Gwener yn neuadd y pentref pan fydd y cyflenwad yn cael ei droi ymlaen gan AS Meirionnydd Nant Conwy, Elfyn Llwyd, cynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a chwmni ScottishPower Manweb.

'Ateb gorau'

"Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu cyflawni hyn cyn y Nadolig," meddai Mr Evans.

"Roedd rhaid cynllunio a chodi'r llinell gyswllt ac rydyn ni wedi gweithio'n galed ... er mwyn dewis yr ateb gorau i bawb."

Mary Margaret Jones
Dywed Mrs Jones ei bod yn dawelach heb sŵn y generadur

Hyd yma mae'r pentrefwyr wedi dibynnu ar gyflenwad trydan o eneradur disel oedd yn swnllyd.

Doedd y pentrefwyr ddim yn gallu dibynnu ar oergelloedd na rhewgelloedd i gadw bwyd.

"Efallai bod pobl yn meddwl ein bod ni'n byw yn y tywyllwch, ond nid dyna'r sefyllfa o gwbl," meddai Mary Margaret Jones o Fferm Bryn Llin Fawr ac ysgrifenyddes Menter Egni Abergeirw.

"Roedd ganddon ni bopeth os oedd y generadur yn gweithio.

"Roedd ganddo ni oergelloedd, rhewgelloedd a hyd yn oed beiriant golchi llestri."

Tawelwch

Mae'r siop fach leol agosaf saith milltir i ffwrdd yn Nhrawsfynydd a'r archfarchnad leol yn Nolgellau, 12 milltir i ffwrdd.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri roddodd ganiatād ym mis Mehefin i godi polion trydan.

Mae Cyngor Gwynedd a'r Parc Cenedlaethol wedi cyfrannu grantiau gwerth £40,000 a £35,000.

Generadur
Mae'r generadur yn dal ar fferm Mrs Jones - rhag ofn

Ond roedd rhaid i'r trigolion lleol dalu tua £11,000 am y gwaith.

Dywedodd Mrs Jones ei bod hi'n rhyfedd cael trydan o'r rhwydwaith.

"Mae'n llawer tawelach rwan, does 'na ddim sŵn gan y generadur.

"Ac fe allwn ni adael y golau ymlaen drwy'r dydd a'r nos."

Ond ychwanegodd bod y generadur yn dal ar y fferm, rhag ofn i'r cyflenwad trydan gael ei ddiffodd am ryw reswm.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Pentref gam yn nes at drydan
18 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific