British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008, 16:33 GMT
Lynette White - Y Cefndir

Lynette White
Cafodd Lynette White, 20, ei llofruddio ar Chwefror 14, 1988

Cafodd Lynette White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat uwchben siop fetio yn ardal Trebiwt o Gaerdydd ar ddydd San Ffolant 1988.

Roedd wedi ei thrywanu mwy na 50 o weithiau.

Daeth yr achos llys a ddilynodd yn un o'r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder ar l i dri dyn lleol gael eu carcharu ar gam.

Yn 1990 cafodd Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, Tri Caerdydd, eu carcharu am oes.

Cafodd y dyfarniad ei ddiddymu ddwy flynedd yn ddiweddarach yn dilyn apl.

Yna yn 2003, 15 mlynedd ar l y llofruddiaeth, fe wnaeth Jeffrey Gafoor, 38 oed o Lanharan gyfaddef i ladd Ms White ar l cael ei ddal drwy brawf DNA newydd.

Ar l achos Gafoor fe dderbyniodd Tri Caerdydd ymddiheuriad llawn gan Brif Gwnstabl Heddlu'r De.

Cafodd Ms White ei thrywanu dros 50 o weithiau gan Gafoor ar l iddo newid ei feddwl ynglŷn thalu am ryw.

Ar l achos Gafoor fe wnaeth Heddlu'r De gychwyn ymchwiliad o'r newydd i "ddod at wraidd yr hyn a ddigwyddodd yn yr ymchwiliad gwreiddiol a pham".

O fewn 10 mis i ddechrau'r ymchwiliad cafodd 100,000 o dudalennau o wybodaeth eu hail ymchwilio a chasglwyd 155 o ddatganiadau newydd.

Roedd Gafoor ymhlith y tystion, dioddefwyr a'r rhai o dan amheuaeth sydd wedi cael eu cwestiynu.

Cafodd ffeiliau ar 11 o bobl eu cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Penderfynwyd dwyn achos yn erbyn tri o bobl am roi tystiolaeth ffug yn yr achos gwreiddiol - Mark Grommek, 50, Leanne Vilday, 40, ac Angela Psaila, 43.

Plediodd y tri yn euog.



HEFYD
Celwydd ar lw: Carcharu tri
19 Rhag 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific