British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Rhagfyr 2008, 09:02 GMT
Rhybudd am gam-drin anifeiliaid

Ci mewn canolfan anifeiliaid
Mae achosion o esgeuluso cŵn dros y Nadolig ar gynnydd

Mae ymddiriedolaeth cŵn ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi beirniadu pobl sy'n prynu'r anifeiliaid fel anrhegion Nadolig ac yn eu hesgeuluso ar l yr ŵyl.

Mewn ymgais i atal pobl rhag prynu ci fel anrheg Nadolig mae'r ymddiriedolaeth yn cau'r Ganolfan Ail-Gartrefu rhwng Rhagfyr 21 a Ionawr 2.

Ond fe fydd modd mynd i weld y cŵn yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth fod archwiliad manwl yn cael ei wneud cyn rhoi anifeiliaid yng ngofal teuluoedd cyfrifol.

Esgusodion

Mae'r esgusodion sy'n cael eu rhoi i'r ganolfan yn amrywio o'r ffaith fod gan y ci "lygaid lliwiau gwahanol" a "dydy ci du ddim yn cyd-fynd 'r carped gwyn".

Mae eraill yn dweud bod y ci yn rhy hen a'u bod yn dymuno ei gyfnewid am un iau.

Yn l Beverley Price, rheolwraig yr ymddiriedolaeth mae 16,000 o gŵn yn cael eu gadael yn y ganolfan bob blwyddyn.

"Er mwyn atal pobl rhag prynu cŵn yn ddifeddwl fel anrhegion y Nadolig hwn, rydyn ni wedi penderfynu cau ein drysau ail-gartrefu ar un o achlysuron prysuraf y flwyddyn," meddai

"Mae rhai o'r esgusodion rydyn ni'n eu clywed am adael cŵn yn anhygoel ac yn drist."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Gwahardd swyddog trin cwn
16 Hyd 04 |  Newyddion
Cynnydd yn achosion creulondeb
09 Mai 00 |  Newyddion
Ymchwil i honiadau am gamdrin merlod
05 Tach 01 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific