|
Mae tua 70,000 o ymwelwyr wedi ymweld yn flynyddol â'r ŵyl gychwynnodd yn 1983
|
Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi cael ei rhoi yn nwylo'r derbynnydd.
Roedd trefnwyr yr ŵyl wedi dweud ym mis Hydref fod yr ŵyl, sy'n 25 mlynedd oed, wedi gwneud colledion mawr ac nad oedden nhw'n gallu talu credydwyr.
Bydd bwrdd yr ŵyl yn gwneud datganiad yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Mae gwefan yr ŵyl, oedd yn hysbysebu digwyddiad 2009, wedi cael ei thynnu i lawr.
Yn ôl y darlledwr Emyr Wyn Williams, sydd wedi cyflwyno rhaglenni jazz ar BBC Radio Cymru,: "Mae'n ergyd fawr i fyd y celfyddydau yng Nghymru".
Dywedodd Paul Ashton, cynghorydd sir Powys ac un o ymddiriedolwyr bwrdd yr ŵyl, fod tywydd drwg mis Awst wedi effeithio ar werthiant tocynnau munud-olaf.
'Trist iawn'
"Roedd gwerthiant tocynnau ymlaen llaw gystal neu'n well na'r blynyddoedd o'r blaen," meddai wrth y BBC.
"Mae'n drist iawn bod yr ŵyl yn diflannu ... mae hi wedi mynd yn fwy ac yn fwy ac mae wedi bod yn anodd ei chadw'n ddigwyddiad cymunedol.
"Ond mae'n bosib y bydd yn codi fel ffenics o'r llwch."
'Pryderu'
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae'r trefnwyr wedi rhoi gwybod i ni gan ein bod ni'n un o arianwyr yr ŵyl.
"Mae'r ŵyl yn un o wyliau cerddorol pwysicaf Prydain ac yn cyfrannu'n fawr at yr economi leol.
"Yn naturiol ddigon, rydyn ni'n pryderu wrth feddwl nad oedd yr ŵyl eleni mor llwyddiannus yn ariannol ...
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu a'r partneriaid er mwyn dod o hyd i ateb boddhaol."
Mae tua 70,000 wedi bod bob blwyddyn i'r ŵyl ddechreuodd yn 1983.
.
|