British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2008, 13:11 GMT
Trn cyflymach: Oedi mawr

Ieuan Wyn Jones
Ieuan Wyn Jones ar fin cychwyn ar y daith gyntaf o Gaergybi i Gaerdydd

Roedd oedi mawr i deithwyr ar drenau yn y gogledd fore Mawrth am nad oedd peirianwyr wedi gorffen trwsio'r rheilffordd rhwng Rhyl ag Abergele mewn pryd.

Fe gafodd taith rhwng Caergybi a Chaerdydd ei chanslo ar ail ddiwrnod y gwasanaeth newydd.

Dywedodd cwmni trenau Arriva Cymru eu bod nhw'n ail-drefnu eu gwasanaethau.

Roedd y gwaith i fod i gael ei gwblhau erbyn 5.15am fore Mawrth ond bu'n rhaid aros tan 9.45am cyn i'r lein ailagor.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail fod un o'r peiriannau wedi torri a bod hynny wedi achosi oedi.

Cynnal a chadw

"Yn anffodus roedd hyn yn golygu nad oedd hi'n bosib i drenau cynnar deithio rhwng Y Rhyl ac Abergele."

Fe wnaeth gwasanaeth newydd y Gerallt Gymro adael Caergybi am 5.32 bore heddiw a chyrraedd Cyffordd Llandudno cyn dod i stop.

Dywedodd Arriva Cymru eu bod yn disgwyl i'r daith yn l o Gaerdydd am 4.20pm deithio yn ol yr arfer.

Bu'n rhaid i gwmni tenau Virgin hefyd ganslo rhai o'u gwasanaethau nhw o Gaergybi oherwydd y gwaith cynnal a chadw.

Pan ddechreuodd gwasanaeth newydd Arriva ddydd Llun dywedodd y cwmni trenau mai'r nod oedd cwtogi taith bum awr i daith bedair awr a hanner.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Trafnidiaeth 'i uno'r wlad'
02 Rhag 08 |  Newyddion
Fali-Caerdydd: Teithwyr yn dyblu
08 Mai 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific