British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2008, 12:47 GMT
Gweinidog: Gwerthu maes awyr

Maes Awyr Llanbedr
Roedd y maes awyr yn un prysur yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mae safle Maes Awyr Llanbedr wedi cael ei werthu.

Fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, ei fod yn cymeradwyo gwerthu safle'r maes awyr i Wasanaeth Awyr Kemble.

"Dwi'n sicr bod y gwerthu'n cynnig y budd economaidd mwya i'r gymuned leol ac yn dod swyddi sydd wir eu hangen yno," meddai.

Tan yn ddiweddar roedd yr Awyrlu'n defnyddio'r safle ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

"Dwi'n fodlon y bydd y penderfyniad yn unol 'n dyletswydd ni i ystyried yn ofalus amcanion y parc cenedlaethol," meddai Mr Jones.

"Ni fydd y penderfyniad yn effeithio'n negyddol ar gadwraeth yn yr ardal."

Amod

Amod y brydles 125 mlynedd yw bod Gwasanaeth Awyr Kemble yn cael caniatd cynllunio lleol.

Fe fydd y cwmni yn sefydlu cwmni o'r enw Stadau Maes Awyr Llanbedr fydd yn rheoli'r safle.

Fe fydd teithiau awyr preifat yn hedfan o'r maes awyr a modd llogi adeiladau gwag ar y safle.

Cafodd y maes awyr ei adeiladu yn 1940 cyn troi'n ganolfan yr Awyrlu yn 1941.

Roedd yr Awyrlu ac Awyrlu America yn defnyddio'r safle yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yna daeth yn safle ar gyfer hyfforddi peiliotiaid Hawk ac Eurofighter.

Fe gaeodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y safle yn 2004.

Yn erbyn

Fe lwyddodd yr Awdurdod Datblygu i brynu'r safle yn 2006 ac fe gafodd ei farchnata gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2007.

Roedd Cymdeithas Eryri yn erbyn y cynlluniau ond roedd Cyngor Gwynedd a Chyngor Cymunedol Llanbedr yn eu cefnogi.

Roedd deiseb Cymdeithas Eryri yn cynnwys 156 o enwau - a 1,240 o enwau ar ddeiseb o blaid y maes awyr.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Maes awyr: 'Gorfod tynnu nl?'
19 Hyd 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific