British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008, 20:31 GMT
Blwch i'r Cymry yn y Cyfrifiad

Ffurflen y Cyfrifiad
Doedd dim blwch i nodi eich bod yn Gymro yn 2001
Fe fydd hi'n bosib nodi eich bod chi'n Gymro ar ffurflen y cyfrifiad am y tro cyntaf, os yw cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu cymeradwyo.

Fe fydd y cynnig i gynnwys blwch 'Cymry' yng nghyfrifiad 2011 yn cael ei drafod yn San Steffan yn y flwyddyn newydd.

Mae'r Asiantaeth Ystadegau wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymateb i brotestiadau saith mlynedd yn ôl.

Protestiadau

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi croesawu'r Papur Gwyn, sydd hefyd yn cynnig fod pawb yng Nghymru yn derbyn copi dwyiwithog o'r cyfrifiad.

Yn 2001 bu protestiadau gan nad oedd blwch i ddisgrifio eich hun fel Cymry, er bod pobl yn yr Alban wedi cael y dewis o ddisgrifio eu hunain fel Albanwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol: "Rydym wedi ymateb i'r hyn ddigwyddodd yn 2001 ac wedi ystyried teimladau pobl a'r modd y mae cymdeithas wedi newid.

Fe gafodd papur Gwyn y Cyfrifiad ei gyhoeddi ddydd Iau ac fe fydd yn mynd o flaen senedd San Steffan yn y flwyddyn newydd.

HEFYD

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific