|
Mae'r cwmni yn cyflogi tua 25,000 o weithwyr yn y Deyrnas Unedig.
|
Mae'r gweithwyr Corus wedi gwrthod cynnig y cwmni i gymryd gostyngiad o ddeg y cant yn eu cyflogau.
Fe wnaeth rheolwyr gynnig y dylai gweithwyr gael llai o gyflog er mwyn ceisio arbed swyddi, yn ôl yr undebau.
Dywedodd yr undebau y byddai trafodaethau yn parhau ond fod angen mwy o fanlyion ar gyfer cynllun Corus ar gyfer 2009.
Os na fydd y perchennog, cwmni Tata o India, yn lleihau costau, mae'r undebau'n ofni y gallai swyddi 1,000 o weithwyr yn Llanwern fod y fantol.
Mae'r wasgfa economaidd wedi effeithio ar y galw am ddur ac mae hyn wedi bod yn ergyd i ddau ddiwydiant allweddol, adeiladau a chynhyrchu ceir.
Roedd stori mewn papur newydd fod yr undebau wedi llunio cynnig fyddai'n golygu llai o gyflog.
'Ddim yn lle'
Ond dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Cymuned, Michael Leahy, "Y rheolwyr sy wedi cynnig hyn.
"Mae eu cynigion nhw'n cynnwys llai o gyflog.
"Hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi dweud y bydd llai o gyflog yn lle llai o weithwyr neu gau gweithfeydd ...
"Ond os nad yw'r llyfr archebu'n newid am gyfnod hir, efallai y bydd angen newidiadau mawr."
Ym mis Tachwedd apeliodd arweinwyr undeb at Corus i beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau byrbwyll ar ôl i'r cwmni gyhoeddi y bydden nhw'n cynhyrchu 30% yn llai o ddur am chwe mis.
Mae tair ffwrnais - ym Mhort Talbot, Scunthorpe a'r Iseldiroedd - wedi cau dros dro.
Mae'r cwmni yn cyflogi tua 25,000 o weithwyr yn y Deyrnas Unedig.
|